Nodiadau Esboniadol i Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 Nodiadau Esboniadol

Rhan 4 – Amrywiol a chyffredinol

Adran 66 Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol

132.Mae adran 66 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ardal awdurdod lleol i benodi swyddog dynodedig (swyddog safonau gwaith cymdeithasol teuluol) a fydd â chyfrifoldeb penodol am godi safonau mewn arferion gwaith cymdeithasol a hyrwyddo'r defnydd o ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â plant a phersonau sy'n gofalu amdanynt. Mae cylch gwaith y swyddog safonau gwaith cymdeithasol teuluol yn ymestyn i’r holl arferion gwaith cymdeithasol sy’n berthnasol i blant.

Adran 67 Anghenion plant sy’n codi o anghenion gofal cymunedol eu rhieni

133.Mae adran 67 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, wrth asesu anghenion oedolion am wasanaethau gofal cymunedol, i ystyried hefyd anghenion unrhyw blant y mae’r oedolion hynny yn gyfrifol am ofalu amdanynt, ac ystyried a yw effaith anghenion yr oedolion ar eu gallu i rianta yn golygu bod plentyn, yn ei dro , yn “blentyn mewn angen” yn nhermau adran 17 o Ddeddf Plant 1989.

134.Ar ôl ystyried a yw’n ymddangos ai peidio bod plentyn yn blentyn mewn angen, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylid gwneud y plentyn yn destun asesiad o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac wedyn a ddylid darparu unrhyw wasanaethau ai peidio.

135.Mae is-adran 4 wedyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gymryd cyfrif o’r ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i anghenion y plentyn wrth benderfynu beth yw anghenion y rhiant o dan adran 47(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990.

Adran 68 Anghenion plant sy’n codi o anghenion gofal iechyd rhieni

136.Mae’r adran hon yn ategu’r ddarpariaeth yn adran 67 drwy osod dyletswydd ar gyrff GIG, pan ddarperir gwasanaethau iechyd penodol, i wneud trefniadau addas ar gyfer ystyried a yw anghenion iechyd rhiant yn peri bod unrhyw blant y mae’r oedolyn yn gofalu amdanynt yn gymwys i gael gwasanaethau gan awdurdod lleol o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 neu ddarpariaeth arall. Rhaid i’r corff iechyd hefyd wneud trefniadau addas ar gyfer atgyfeirio achosion priodol at yr awdurdod lleol perthnasol, ond mae’r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd i’r plentyn neu i’r gofalwr ynglŷn â datgelu gwybodaeth, boed ddyletswydd cyfrinachedd o dan gyfraith gwlad neu ddyletswydd i’r sawl sy’n destun yr wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Adran 69 Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol

137.Mae adran 69, yn darparu ar gyfer newid canlyniadol yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, drwy ehangu ystyr “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” (“social services functions”) i gynnwys TICDau a Byrddau ICD, swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol (a. 66) ac ystyried anghenion plant wrth asesu rhieni (a. 67).

Adran 70 Canllawiau

138.Mae adran 70 yn gwneud darpariaethau ynglŷn ag unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru i gyrff y mae'n rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau o'r fath.

Adran 71 Dehongli'n gyffredinol

139.Mae adran 71 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Mesur.

Adran 72 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

140.Nodir mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol yn Atodlen 1.

Adran 73 Diddymiadau

141.Nodir y diddymiadau yn Atodlen 2.

Adran 74 Gorchmynion a Rheoliadau

142.Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol. Mae is-adrannau (2) i (5) yn pennu'r trefniadau mewn perthynas â gorchmynion a rheoliadau. Ceir arfer y pŵer i wneud rheoliadau gan ddarparu’n wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ardaloedd neu ddibenion, a chan wneud darpariaeth gyffredinol neu ddarpariaeth ar gyfer achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion.

Adran 75 Cychwyn

143.Mae adran 75 yn pennu’r trefniadau ar gyfer cychwyn y Mesur o ran yr adrannau 1, 2, 3, 74, 75 a 76. Daw gweddill y darpariaethau sydd yn y mesur i gyd i rym pan gychwynnir hwy drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

Adran 76 Enw byr

144.Enw byr y Mesur yw ‘Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010’.

Back to top