Adran 47 Hysbysiadau o gosb
108.Mae adran 47 yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gosod hysbysiad cosb benodedig ar berson cofrestredig os cânt eu bodloni ei fod wedi cyflawni tramgwydd perthnasol. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i nodi mewn rheoliadau y tramgwyddau hynny y gellir ymdrin â hwy drwy ddefnyddio hysbysiad cosb benodedig. Mae'r cynnig i osod hysbysiad o gosb yn rhoi cyfle i'r person cofrestredig dalu cosb mewn perthynas â thoriad a ganfyddir a chyflawni drwy hynny bob atebolrwydd troseddol am y toriad o dan sylw. Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi ond bod y gosb heb ei thalu eto, ni chaniateir cychwyn achos ynglŷn â'r tramgwydd y cyfeirir ato yn yr hysbysiad cyn diwedd pa gyfnod bynnag a ragnodir yn yr hysbysiad. Os bydd y person yn talu'r gosb yn unol â'r hysbysiad, ni ellir ei gollfarnu wedyn am y tramgwydd y cyfeirir ato yn yr hysbysiad. Mae'r cosbau yn daladwy i Weinidogion Cymru.