Adran 19 Ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”
53.Mae adran 19 yn diffinio “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant” at ddiben rheoleiddio’r gweithgareddau hyn o dan Ran 2 o’r Mesur
54.Mae person yn “warchodwr plant” os yw’n gofalu am un neu ragor o blant o dan wyth oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr.
55.Mae person yn darparu “gofal dydd i blant” os yw’n darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan wyth oed mewn mangre nad yw’n fangre ddomestig.
56.Mae is-adran (3) yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer drwy orchymyn i newid yr oedrannau y cyfeirir atynt yn y diffiniadau o “warchodwr plant” a “gofal dydd i blant” ac i bennu amgylchiadau a fydd yn gyfystyr ag eithriadau i’r diffiniadau. Ni fydd person y mae ei weithgaredd yn dod o fewn yr amgylchiadau a bennir drwy orchymyn yn warchodwr plant nac yn ddarparydd gofal dydd (yn ôl y digwydd) ac ni fydd yn ofynnol iddo gofrestru naill ai o dan adran 21 neu adran 23. Mae is-adran (5) yn nodi rhestr nad yw’n un hollgynhwysfawr o’r mathau o faterion y caniateir gwneud eithriadau mewn perthynas â hwy: (a) y categori o berson sy’n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd; (b) y plentyn neu'r plant y darperir ef ar ei gyfer neu ar eu cyfer; (c) natur y gwasanaeth gwarchod plant neu’r gofal dydd; (d) y fangre y darperir ef ynddi; (e) yr adegau pan ddarperir ef; ac (f) y trefniadau y darperir ef oddi tanynt.
57.Y prif ffactor sy’n gwahaniaethu rhwng gwarchod plant a gofal dydd yw a yw plant yn cael gofal ar “fangre ddomestig”, a ddiffinnir yn is-adran (6) fel unrhyw fangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat.