Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

2010 mccc 1

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cyfrannu at ddileu tlodi plant; i ddarparu dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant; i wneud darpariaeth ynghylch trefniadau i blant gymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol a allai effeithio arnynt; i wneud darpariaeth ynghylch gwarchod plant a gofal dydd i blant; i wneud darpariaeth sy'n sefydlu timau a byrddau integredig ar gyfer cymorth i deuluoedd; i wneud darpariaeth ynghylch gwella safonau mewn gwaith cymdeithasol ar gyfer plant a'r personau sy'n gofalu amdanynt; i wneud darpariaeth ynghylch asesu anghenion plant os oes angen gwasanaethau gofal cymunedol ar eu rhieni neu os oes ganddynt gyflyrau iechyd sy'n effeithio ar anghenion y plant; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Tachwedd ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Chwefror 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—