xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009

2009 mccc 4

MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Comisiynydd i ymchwilio i gwynion am ymddygiad Aelodau Cynulliad ac i gyflwyno adroddiadau i'r Cynulliad ar ganlyniad ymchwiliadau o'r fath; ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â hynny.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 14 Hydref 2009 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 9 Rhagfyr 2009, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

Comisiynydd Safonau [F1y Senedd] LL+C

Diwygiadau Testunol

1Y ComisiynyddLL+C

(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer [F2y Senedd] (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).

(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y [F3Senedd].

(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —

(a)yn [F4Aelod o’r Senedd],

(b)wedi bod yn [F4Aelod o’r Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,

(c)yn aelod o staff y [F3Senedd],

(d)wedi bod yn aelod o staff y [F3Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,

(e)yn aelod o staff Llywodraeth F5... Cymru, neu

(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth F6... Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.

(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.

(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).

(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —

(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r [F3Senedd], neu

(b)cael ei ddiswyddo gan y [F3Senedd].

(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —

(a)bod y [F3Senedd] yn penderfynu felly, a

(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.

(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —

F7(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,

(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y [F3Senedd] neu o staff Llywodraeth F8... Cymru.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

F7A. 1(8)(a) wedi ei hepgor (yn effeithiol yn unol ag a. 42(1)(c) o'r Ddeddf ddiwygio) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 35(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

2Prif nod y ComisiynyddLL+C

Prif nod y Comisiynydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn yw hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus [F4Aelod o’r Senedd].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

3Darpariaeth bellach ynghylch y ComisiynyddLL+C

Mae'r Atodlen yn gwneud rhagor o ddarpariaethau ynghylch y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

4Penodi Comisiynydd Dros DroLL+C

(1)Pan fydd swydd y Comisiynydd yn wag neu pan fydd y Comisiynydd, am unrhyw reswm, yn methu â gweithredu, caiff y [F3Senedd] benodi person i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno naill ai'n gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth o achosion, a hynny hyd at unrhyw amser a bennir gan delerau ac amodau'r penodiad hwnnw; a chyfeirir at berson a benodir felly yn yr adran hon fel y “Comisiynydd dros dro”.

(2)Caiff y Comisiynydd a'r Comisiynydd dros dro ill dau gyflawni swyddogaethau swydd y Comisiynydd ar yr un pryd ond mewn perthynas ag achosion gwahanol.

(3)Nid yw person nad yw'n gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd dros dro.

(4)Mae person a benodir yn Gomisiynydd dros dro —

(a)yn cael ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysiad a roddir i'r [F3Senedd],

(b)yn gallu cael ei ddiswyddo ar unrhyw adeg gan y [F3Senedd],

(c)yn peidio â dal y swydd o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 1(8)(a), (b) a (c),

(d)fel arall yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau a bennir gan y [F3Senedd], ac

(e)i'w drin i bob diben (ac eithrio dibenion adran 1), tra bydd yn dal y swydd honno, fel y Comisiynydd.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

5Annibyniaeth y ComisiynyddLL+C

Yn ddarostyngedig i adran 19, wrth iddo arfer unrhyw swyddogaethau, nid yw'r Comisiynydd i ddod o dan gyfarwyddyd neu reolaeth y [F3Senedd].

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

Swyddogaethau'r ComisiynyddLL+C

6Swyddogaethau'r ComisiynyddLL+C

(1)Swyddogaethau'r Comisiynydd yw —

(a)derbyn unrhyw gŵyn bod ymddygiad [F4Aelod o’r Senedd], ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol,

(b)ymchwilio i unrhyw gŵyn o'r fath yn unol â darpariaethau'r Mesur hwn,

(c)cyflwyno adroddiad i'r [F3Senedd] ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath,

(d)cynghori [F9Aelodau o’r Senedd] ac aelodau'r cyhoedd am y gweithdrefnau ynglŷn â gwneud cwynion ac ymchwilio i gwynion y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt, a

(e)y swyddogaethau eraill a roddir gan adran 7.

(2)Ystyr “adeg berthnasol” yw adeg pan oedd y gofyniad o dan sylw mewn grym ond nid yw'n berthnasol a honnir bod yr ymddygiad o dan sylw wedi digwydd cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.

(3)Ystyr “darpariaeth berthnasol” yw —

(a)unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r canlynol—

(i)cofrestru neu ddatgan buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill,

(ii)hysbysiadau gan [F9Aelodau o’r Senedd] ynglŷn â'u haelodaeth o gymdeithasau,

(iii)cofrestru neu hysbysu unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud ag [F9Aelodau o’r Senedd] neu â phersonau sy'n gysylltiedig ag [F9Aelodau o’r Senedd].

(b)unrhyw benderfyniad gan y [F3Senedd] sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill [F9Aelodau o’r Senedd],

(c)unrhyw God Ymddygiad a gymeradwyir gan y [F3Senedd] sy'n ymwneud â safonau ymddygiad [F9Aelodau o’r Senedd],

(d)unrhyw benderfyniad gan y [F3Senedd] sy'n ymwneud â safonau ymddygiad [F9Aelodau o’r Senedd], ac

(e)unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y Rheolau Sefydlog (neu mewn unrhyw god neu brotocol a wneir odanynt) yn unol ag adran 36(6) o'r Ddeddf.

(4)Nid yw'n berthnasol a ddaeth darpariaeth berthnasol i rym cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

7Swyddogaethau eraill y ComisiynyddLL+C

Fe gaiff y Comisiynydd (ac os gofynnir iddo wneud hynny gan y [F3Senedd] mae'n rhaid iddo) roi cyngor i'r [F3Senedd]

(a)ar unrhyw fater arall o egwyddor gyffredinol sy'n ymwneud â darpariaethau perthnasol neu â safonau ymddygiad [F9elodau o’r Senedd] yn gyffredinol,

(b)ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion bod [F9Aelodau o’r Senedd] wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau perthnasol,

(c)ar unrhyw fater sy'n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus [F4Aelod o’r Senedd].

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

8Cod ar gyfer GweinidogionLL+C

(1)Nid oes dim yn y Mesur hwn sy'n awdurdodi'r Comisiynydd i fynegi barn ar—

(a)unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion,

(b)unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad a allai gael ei chynnwys mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion,

(c)unrhyw honiad bod ymddygiad unrhyw berson yn groes i ddarpariaeth sy'n ymwneud â'r safonau ymddygiad a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion, neu

(d)effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion, mewn perthynas ag unrhyw ymddygiad penodol neu yn gyffredinol.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)ystyr “Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion” yw unrhyw ddogfen (pa fodd bynnag y disgrifir y ddogfen honno) sy'n cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â safonau ymddygiad—

(i)sydd wedi'i chyhoeddi drwy awdurdod y Prif Weinidog neu o dan ei awdurdod,

(ii)sy'n gymwys i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol, neu i unrhyw un ohonynt,

(iii)sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yn y swyddi hynny, a

(iv)sy'n ceisio cymhwyso safonau ymddygiad sy'n wahanol i'r rheini sy'n gymwys i [F10Aelodau o’r Senedd] yn gyffredinol, neu sy'n ychwanegol atynt, a

(b)mae darpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yn un a allai gael ei chynnwys mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion os yw'r ddarpariaeth honno'n bodloni gofynion paragraff (a)(ii), (iii) a (iv).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

Swyddogaethau'r ClercLL+C

9Dyletswydd y Clerc i gyfeirio mater at y ComisiynyddLL+C

Os oes gan y Clerc sail resymol dros amau—

(a)bod ymddygiad [F4Aelod o’r Senedd], ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a

(b)bod yr ymddygiad o dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn), rhaid i'r Clerc fynegi'r sail honno mewn ysgrifen i'r Comisiynydd a rhaid i'r Comisiynydd drin yr ohebiaeth fel cwyn y mae adran 6(1)(a) yn gymwys iddi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

Ymchwilio i GwynionLL+C

10Ymchwilio gan y Comisiynydd i GwynionLL+C

(1)Rhaid i'r Comisiynydd ymchwilio i gwynion ac, yn ddarostyngedig i is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno adroddiad i'r [F3Senedd] ar ganlyniad ymchwiliadau, yn unol â'r canlynol —

(a)darpariaethau'r Rheolau Sefydlog, a

(b)unrhyw reolau sy'n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn [F9Aelodau o’r Senedd] sydd wedi'u mabwysiadu gan y [F3Senedd] o dan y Rheolau Sefydlog.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (1), mater i'r Comisiynydd yw penderfynu pryd a sut y dylid cynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ar ei ganlyniad.

(3)O dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir gan reolau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), caiff y Comisiynydd wrthod cwyn yn ddiannod heb gyflwyno adroddiad arni i'r [F3Senedd] ond rhaid yn hytrach iddo gyflwyno adroddiad mewn ysgrifen i'r [F4Aelod o’r Senedd] o dan sylw ac i'r person a wnaeth y gŵyn, gan roi rhesymau dros ei gwrthod.

(4)Ni chaiff adroddiad gan y Comisiynydd i'r [F3Senedd] ar ganlyniad ymchwiliad gynnwys argymhelliad ynghylch pa sancsiwn a ddylai gael ei orfodi ar yr [F4Aelod o’r Senedd] o dan sylw, os dylai unrhyw sancsiwn gael ei orfodi o gwbl.

(5)Os caiff y Comisiynydd wybod, wrth gynnal ymchwiliad, am unrhyw amgylchiadau—

(a)sy'n codi materion o egwyddor neu o arfer cyffredinol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn) , neu

(b)a allai, ar ôl rhagor o ystyriaeth gan y Clerc, arwain at ddyletswydd ar y Clerc o dan adran 9,

rhaid i'r Comisiynydd fynegi'r amgylchiadau hynny mewn ysgrifen i'r Clerc.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

Pwerau Ymchwilio'r ComisiynyddLL+C

11Pŵer i alw am dystion a dogfennauLL+C

(1)Yn unol ag adran 12, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson—

(a)dod gerbron y Comisiynydd er mwyn rhoi tystiolaeth, neu

(b)cyflwyno i'r Comisiynydd ddogfennau sydd ym meddiant y person hwnnw neu sydd o dan ei reolaeth,

ynghylch unrhyw fater sy'n berthnasol i ymchwiliad y mae'r Comisiynydd yn ei gynnal o dan y Mesur hwn.

(2)At ddibenion yr adran hon,

(a)cymerir bod person yn cydymffurfio â gofyniad i gyflwyno dogfen os bydd yperson hwnnw'n cyflwyno copi o'r ddogfen neu ddarn o'r rhan berthnasol ohoni,

(b)ystyr “dogfen” yw unrhyw beth y mae gwybodaeth wedi'i chofnodi ynddo ar unrhyw ffurf, ac

(c)mae cyfeiriadau at gyflwyno dogfen yn gyfeiriadau at gyflwyno'r wybodaetha gofnodwyd ynddi ar ffurf weladwy a darllenadwy.

(3)Caiff y Comisiynydd dalu unrhyw lwfansau a threuliau rhesymol i bersonau sy'n rhoi tystiolaeth gerbron y Comisiynydd, neu sy'n cyflwyno dogfennau i'r Comisiynydd, yn unol â phenderfyniad y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

12Tystion a dogfennau: hysbysuLL+C

(1)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11 gael ei orfodi ar berson yw i'r Comisiynydd roi i'r person o dan sylw hysbysiad mewn ysgrifen sy'n pennu —

(a)yr amser a'r lle y mae'r person i fod yn bresennol a'r pynciau penodol y mae'n ofynnol i'r person roi tystiolaeth yn eu cylch,

(b)y dogfennau, neu'r mathau o ddogfennau, y mae'r person i'w cyflwyno, erbyn pa bryd ac i ba berson y maent i'w cyflwyno a'r pynciau penodol y gofynnir amdanynt yn eu cylch.

(2)Mae hysbysiad o dan is-adran (1) i'w roi —

(a)yn achos unigolyn, drwy ei anfon yn unol ag is-adran (3) wedi'i gyfeirio at y person yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person neu, os yw'r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno'r hysbysiad, yn y cyfeiriad hwnnw, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy ei anfon felly wedi'i gyfeirio at y person yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r person,

ond dim ond os yw'r cyfeiriad o dan sylw yng Nghymru neu yn Lloegr y caniateir iddo gael ei roi.

(3)Mae hysbysiad wedi'i anfon yn unol â'r is-adran hon os yw wedi'i anfon —

(a)drwy wasanaeth post cofrestredig (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Post 2000 (p.26)), neu

(b)drwy wasanaeth post sy'n darparu ar gyfer cofnodi'r ffaith ei fod wedi cyrraedd pen ei daith drwy'r post.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

13Llwon a chadarnhadauLL+C

Caiff y Comisiynydd—

(a)gweinyddu llw neu gadarnhad i unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth i'r Comisiynydd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw dyngu llw neu roi cadarnhad.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

14Braint ac imiwnedd buddiant cyhoeddusLL+C

(1)Nid yw unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 11(1) yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb neu ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu Loegr.

(2)Nid yw'n ofynnol o dan adran 11(1) i berson sy'n gweithredu fel erlynydd mewn achos troseddol ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen ynghylch sut mae'r system erlyn troseddol yn gweithredu mewn unrhyw achos penodol os yw'r person hwnnw (neu, os yw is-adran (3) yn gymwys, y Cwnsler Cyffredinol) o'r farn y gallai ateb y cwestiwn neu gyflwyno'r ddogfen ragfarnu trafodion troseddol yn yr achos neu y byddai fel arall yn groes i fuddiant y cyhoedd.

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys os cafodd yr achos ei sefydlu gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol, neu ar eu rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

15TramgwyddauLL+C

(1)Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw'r person hwnnw —

(a)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad,

(b)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol, pan fo'n dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad, ag ateb unrhyw gwestiwn ynghylch y pynciau a bennwyd yn yr hysbysiad,

(c)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu

(d)yn mynd ati'n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o'r fath.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 14.

(3)Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn gwrthod tyngu llw neu roi cadarnhad pan fo'n ofynnol iddo wneud hynny o dan adran 13 yn cyflawni tramgwydd.

(4)Os bydd person a gyhuddir o dramgwydd o dan is-adran (1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran (3) yn cyflwyno tystiolaeth o esgus rhesymol dros wrthod neu fethu, mater i'r erlyniad yw profi nad oedd gan y person esgus o'r fath.

(5)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod —

(a)i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,

(b)i gael ei garcharu am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis, neu

(c)i'r ddau.

(6)Os profir bod tramgwydd o dan yr adran hon wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn yn unol â hynny.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “cyfarwyddwr”, yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

16Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaethLL+C

(1)Ac eithrio fel y caniateir gan is-adran (2), rhaid i'r Comisiynydd neu staff y Comisiynydd, neu unrhyw berson arall a benodir gan y Comisiynydd beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y gŵyn nac unrhyw wybodaeth a roddir iddynt neu a sicrheir ganddynt yn ystod ymchwiliad i'r gŵyn honno, neu at ddibenion yr ymchwiliad hwnnw.

(2)Caniateir i wybodaeth felly gael ei datgelu er mwyn —

(a)galluogi neu helpu'r Comisiynydd i gyflawni unrhyw swyddogaethau a osodir ar y Comisiynydd neu a roddir iddo yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn,

(b)galluogi'r Comisiynydd i gydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir ar y Comisiynydd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, neu

(c)ymchwilio i unrhyw dramgwydd neu dramgwydd a amheuir neu eu herlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

17Diogelu rhag achosion difenwiLL+C

(1)At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae unrhyw ddatganiad a wneir yn unol â dibenion y Mesur hwn—

(a)gan y Comisiynydd, neu

(b)i'r Comisiynydd

o dan fraint lwyr.

(2)Yn is-adran (1), mae i “datganiad” yr un ystyr ag sydd i “statement” yn Neddf Difenwi 1996 (p. 31).

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

18Darpariaeth drosiannolLL+C

(1)Caiff y [F3Senedd] ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd gynnal ymchwiliad i unrhyw gŵyn sydd, ar y diwrnod y daw'r adran hon i rym, wedi dod i law, neu'n destun ymchwiliad, o dan reolau y cyfeirir atynt yn adran 10(1)(b).

(2)Caiff unrhyw ofyniad o'r fath gyfarwyddo'r Comisiynydd i gymryd i ystyriaeth unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r gŵyn a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad o'r fath, mae unrhyw gŵyn y cyfarwyddir y Comisiynydd i ymchwilio iddi i'w thrin yn yr un modd ag unrhyw gŵyn arall a wneir i'r Comisiynydd.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

CyffredinolLL+C

19Adroddiad blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted ag y gellir ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Comisiynydd osod gerbron y [F3Senedd] adroddiad blynyddol ar gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd drwy gydol y flwyddyn honno.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3) rhaid i'r adroddiad gynnwys datganiad cryno o wybodaeth sy'n ymwneud â materion a thrafodion ariannol y Comisiynydd wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn honno.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y [F3Senedd] o ran ffurf yr adroddiad blynyddol ac o ran unrhyw wybodaeth benodol neu ddosbarth penodol o wybodaeth y mae'n rhaid iddo eu cynnwys.

(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (5), rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—

(a)i ddod gerbron y pwyllgor hwnnw,

(b)i roi i'r pwyllgor unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol i'r pwyllgor ofyn amdani mewn perthynas ag unrhyw fater a gynhwyswyd mewn adroddiad sydd wedi'i osod gerbron y [F3Senedd] o dan is-adran (1) neu yr oedd yn ofynnol ei gynnwys mewn adroddiad o'r fath.

(5)Nid oes angen i'r Comisiynydd gydymffurfio a gofyniad o dan is-adran (4) —

(a)os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, a

(b)ac eithrio yn achos gofyniad o dan is-adran (4)(b) a fynegir i'r Comisiynydd ar lafar yn un o gyfarfodydd y pwyllgor, oni bai bod y gofyniad yn un ysgrifenedig.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)

20DehongliLL+C

(1)Yn y Mesur hwn —

(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at “y [F3Senedd]” yn gyfeiriad —

(a)at [F15Senedd Cymru], neu

(b)heblaw yn adrannau 1 ,4, 6(3)(b), (c) a (d) a'r Atodlen, at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

21Enw byr a chychwynLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.

(2)Daw'r Mesur hwn i rym fel a ganlyn —

(a)daw'r adran hon ac adrannau 1, 3 (gan gynnwys yr Atodlen) a 20 i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, a

(b)daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir hysbysiad o dan is-adran (3).

(3)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiad cyntaf Comisiynydd o dan y Mesur hwn ddod i rym, beri cyhoeddi, mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yng Nghymru, hysbysiad —

(a)o'r ffaith bod y penodiad o dan sylw wedi dod i rym, a

(b)o'r ffaith y bydd holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) oherwydd cyhoeddi'r hysbysiad yn dod i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

(a gyflwynir gan adran 3)

ATODLENLL+CComisiynydd Safonau [F16Y Senedd]

Diwygiadau Testunol

Ei benodiLL+C

1Rhaid i'r [F3Senedd] wneud trefniadau —

(a)i sicrhau bod unrhyw berson a benodir yn Gomisiynydd wedi'i nodi drwy gystadleuaeth deg ac agored, a

(b)i bennu'r telerau y bydd y penodiad hwnnw, o'i wneud, yn effeithiol odanynt.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. para. 1 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

2Caniateir i'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1, (ond nid penodi'r person a nodir fel hyn,) gael eu dirprwyo gan y [F3Senedd], yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r Comisiwn, i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad neu i staff y [F3Senedd] a chaniateir i'r trefniadau hynny gynnwys personau sy'n annibynnol ar y [F3Senedd].

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. para. 2 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

Corfforaeth undynLL+C

3Mae'r person sydd am y tro yn dal swydd Comisiynydd Safonau [F17y Senedd] i fod yn gorfforaeth undyn, o dan enw'r swydd honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. para. 3 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

DogfennauLL+C

4(1)Mae gosod sêl y Comisiynydd i'w ddilysu —

(a)â llofnod y Comisiynydd, neu

(b)â llofnod unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd at y diben hwnnw.

(2)Caniateir i ddogfen sy'n honni ei bod wedi'i gweithredu'n briodol o dan sêl y Comisiynydd neu ei bod wedi'i llofnodi ar ran y Comisiynydd gael ei derbyn fel tystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi'i gweithredu felly neu wedi'i llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. para. 4 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

AriannolLL+C

5(1)Rhaid i'r Comisiwn —

(a)talu i'r Comisiynydd unrhyw gyflog ac unrhyw lwfansau, a

(b)gwneud unrhyw daliadau tuag at ddarparu buddion blwydd-dal ar gyfer y Comisiynydd neu mewn perthynas ag ef,

y darperir ar eu cyfer gan delerau penodi'r Comisiynydd neu o danynt.

(2)Rhaid i'r Comisiwn dalu i berson neu mewn perthynas â pherson sydd wedi rhoi'r gorau i ddal swydd y Comisiynydd unrhyw symiau (os oes rhai) ar ffurf —

(a)pensiwn neu roddion, neu

(b)darpariaeth ar gyfer y buddion hynny,

y darparwyd ar eu cyfer gan delerau penodi'r Comisiynydd neu o danynt.

(3)Rhaid i'r Comisiwn dalu unrhyw rwymedigaethau rhesymol y mae'r Comisiynydd wedi'u hysgwyddo'n gyfreithlon —

(a)wrth gyflogi staff,

(b)wrth sicrhau bod nwyddau neu wasanaethau'n cael eu darparu, ac

(c)mewn perthynas â lwfansau a threuliau personau sy'n rhoi tystiolaeth neu sy'n cyflwyno dogfennau.

(4)Mae symiau y mae eu hangen er mwyn gwneud taliadau o dan is-baragraffau (1) a (2) i'w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. para. 5 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

Staff, nwyddau a gwasanaethau LL+C

6(1)Caiff y Comisiynydd, ar unrhyw delerau a bennir gan y Comisiynydd, benodi unrhyw staff neu sicrhau y darperir unrhyw nwyddau neu wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(2)Caiff y Comisiynydd wneud trefniadau gydag unrhyw gorff cyhoeddus neu ddeiliad swydd gyhoeddus, ar unrhyw delerau y bydd y Comisiynydd a'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw yn cytuno arnynt, i'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw ddarparu unrhyw wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(3)Wrth arfer pwerau o dan is-baragraffau (1) a (2) neu o dan adran 11(3), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i gyfrifoldebau'r Clerc, yn rhinwedd ei swydd fel prif swyddog cyfrifyddu'r Comisiwn, o dan adran 138(3)(a) o'r Ddeddf.

(4)O ran unrhyw rwymedigaeth y gall fod yn ofynnol i'r Comisiwn ei thalu o dan baragraff 5(3), rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Clerc a rhaid iddo wneud hynny—

(a)os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, cyn ysgwyddo'r rhwymedigaeth o dan sylw,

(b)os nad yw, cyn gynted wedyn ag y bydd yn rhesymol ymarferol.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y Clerc pan ymgynghorir â'r Clerc o dan is-baragraff (4).

(6)Gall dyletswydd y Comisiynydd i ymgynghori â'r Clerc o dan is-baragraff (4) gael ei chyflawni mewn perthynas â rhwymedigaeth benodol naill ai—

(a)drwy roi manylion y rhwymedigaeth o dan sylw i'r Clerc, neu

(b)drwy hysbysu'r Clerc y gallai rhwymedigaethau o ddisgrifiad penodol hyd at gyfanswm penodedig gael eu hysgwyddo,

ar yr amod, pan fo (b) yn gymwys, fod y rhwymedigaeth benodol o dan sylw yn dod o fewn y disgrifiad a hysbyswyd ac nad yw, o'i chymryd ynghyd ag unrhyw rwymedigaethau eraill y mae'r hysbysiad hwnnw'n cyfeirio atynt, yn fwy na'r cyfanswm a hysbyswyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. para. 6 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)

Gwybodaeth AriannolLL+C

7Rhaid i'r Comisiynydd roi i'r Comisiwn unrhyw wybodaeth am faterion a thrafodion ariannol y Comisiynydd y mae'n rhesymol i'r Comisiwn ofyn amdani i'w alluogi i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y Comisiwn gan gyfarwyddyd a roddir i'r Comisiwn mewn perthynas â'r Comisiynydd o dan adran 137(1) a (2) o'r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. para. 7 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)