Cyffredinol
21Enw byr a chychwyn
(1)
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.
(2)
Daw'r Mesur hwn i rym fel a ganlyn —
(a)
daw'r adran hon ac adrannau 1, 3 (gan gynnwys yr Atodlen) a 20 i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, a
(b)
daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir hysbysiad o dan is-adran (3).
(3)
Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiad cyntaf Comisiynydd o dan y Mesur hwn ddod i rym, beri cyhoeddi, mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yng Nghymru, hysbysiad —
(a)
o'r ffaith bod y penodiad o dan sylw wedi dod i rym, a
(b)
o'r ffaith y bydd holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) oherwydd cyhoeddi'r hysbysiad yn dod i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad.