Swyddogaethau'r Clerc

I19Dyletswydd y Clerc i gyfeirio mater at y Comisiynydd

Os oes gan y Clerc sail resymol dros amau—

a

bod ymddygiad F1Aelod o’r Senedd, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a

b

bod yr ymddygiad o dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn), rhaid i'r Clerc fynegi'r sail honno mewn ysgrifen i'r Comisiynydd a rhaid i'r Comisiynydd drin yr ohebiaeth fel cwyn y mae adran 6(1)(a) yn gymwys iddi.