11Dehongli
This section has no associated Explanatory Notes
Yn y Mesur hwn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996 (p.56);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);
ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw'r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru.