SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU

Adran 1: Hybu disgyblion mewn ysgolion a gynhelir i fwyta ac yfed yn iach

2.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol ac ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i gymryd camau i hybu bwyta ac yfed yn iach. Wrth gyflawni’r ddyletswydd honno, mae’n rhaid iddyn nhw roi sylw i unrhyw ganllawiau a fydd yn cael eu dyroddi gan Weinidogion Cymru o ran beth yw bwyta ac yfed yn iach; pa gamau a fyddai’n briodol a sut y dylai egwyddorion datblygu cynaliadwy gael eu cymhwyso at fwyta ac yfed yn iach.

Adran 2: Adroddiadau llywodraethwyr

3.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gynnwys gwybodaeth yn ei adroddiad blynyddol am y camau sydd wedi’u cymryd i annog disgyblion yr ysgol i fwyta ac yfed yn iach.

Adran 3: Swyddogaethau’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

4.Mae adran 20(1) o Ddeddf Addysg 2005 yn nodi’r materion y mae’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru o dan ddyletswydd i roi gwybodaeth amdanyn nhw yn gyson i Weinidogion Cymru. Mae’r adran hon yn ychwanegu paragraff (g) newydd i’r is-adran honno er mwyn ei gwneud yn ofynnol hefyd i’r Prif Arolygydd gyflwyno adroddiadau ar y camau sydd wedi’u cymryd i hybu bwyta ac yfed yn iach.

Adran 4: Gofynion ynglŷn â bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol etc.

5.Mae’r adran hon wedi’i seilio ar yr adran 114A gyfredol yn Neddf Safonau  a Fframwaith Ysgolion 1998, sy’n cael ei chynnwys yn y Mesur fel bod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch safonau maethiad yn yr ysgolion yn cael ei thrafod mewn un darn o ddeddfwriaeth sylfaenol.  Mae’n parhau i roi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ragnodi gofynion a fydd yn gymwys i’r bwyd a’r ddiod sy’n cael eu darparu ar fangre unrhyw ysgol a gynhelir.  Caniateir hefyd i reoliadau gael eu gwneud mewn perthynas â bwyd a diod sy’n cael eu darparu gan yr awdurdodau lleol neu’r corff llywodraethu mewn man arall ar gyfer disgyblion sydd wedi’u cofrestru yn yr ysgol.  Serch hynny, fydd y gofynion ddim yn gymwys i ginio pecyn.

6.Mae’r adran hefyd yn ychwanegu, yn is-adran (2), bŵer i bennu uchafsymiau braster, braster dirlawn, halen a siwgr yn y bwyd a’r ddiod sy’n cael eu darparu ar gyfer disgyblion.

7.Mae hefyd yn cynnwys gofyniad bod rhaid i Weinidogion Cymru ganfod barn disgyblion ac eraill cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon.

Adran 5: Dŵr yfed mewn ysgolion

8.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i sicrhau bod cyflenwad dŵr yfed ar gael yn rhad ac am ddim, ac i roi sylw unrhyw ganllawiau a fydd yn cael eu dyroddi gan Weinidogion Cymru.

Adran 6: Hybu prydau mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill

9.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau lleol hybu argaeledd prydau ysgol a llaeth yn gyffredinol, a chinio ysgol a llaeth am ddim yn benodol, a hybu’r niferoedd sy’n eu cymryd.

Adran 7: Diogelu manylion adnabod disgyblion sy’n cael cinio ysgol am ddim

10.Er mwyn rhoi hwb i’r niferoedd sy’n cymryd prydau ysgol iach, mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i ddiogelu manylion adnabod y rhai sydd â hawl i gael cinio ysgol neu laeth am ddim, ac i wneud hynny yn unol ag unrhyw ganllawiau a fydd yn cael eu dyroddi gan Weinidogion Cymru. Mae hyn yn cael ei wneud drwy osod adran 512ZC newydd yn Neddf Addysg 1996 yn union ar ôl yr adran yn y Ddeddf honno sy’n ymdrin â’r hawl i gael cinio ysgol am ddim.

Adran 8: Diwygiadau canlyniadol

11.Gan fod adran 7 o’r Mesur hwn yn disodli adran 114A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 o ran Cymru, mae’r adran hon yn gwneud newidiadau o ganlyniad i hynny yn adran 114A i’w gwneud yn glir nad yw’r adran honno’n gymwys i Gymru.

Adran 9: Arbediad

12.Mae’r adran hon yn sicrhau bod effaith unrhyw reoliadau sydd wedi’u gwneud o dan adran 114A cyn i’r Mesur hwn ddod i rym yn parhau, fel na fydd yna ddiffyg rheoliadau yn ystod y cyfnod cyn i reoliadau gael eu gwneud o dan y pwerau sydd wedi’u cynnwys yn y Mesur hwn.

Adran 10: Gorchmynion a rheoliadau

13.Mae’r adran hon yn cynnwys y manylion arferol ynghylch pŵer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth. Byddai hwnnw’n dod o dan y weithdrefn negyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, gydag un eithriad. Yn unol â’r arfer cyffredin, fyddai dim gweithdrefn mewn perthynas â gorchmynion cychwyn a fyddai’n cael eu gwneud o dan adran 12(3).

Adran 11: Dehongli

14.Mae’r adran hon yn diffinio nifer o dermau sy’n cael eu defnyddio yn y Mesur, ond does dim darpariaethau o sylwedd ynddi.

Adran 16: Enw byr a chychwyn

15.Mae’r adran hon yn cyflwyno’r enw y bydd y Mesur yn cael ei adnabod wrtho yn gyffredinol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dod â’r Mesur i rym. Mae’r adran hon yn dod i rym ar y dyddiad y mae’n cael ei chymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn un o gyfarfodydd y Cyfrin Gyngor, a byddai gweddill y  Mesur yn dod i rym yn unol â Gorchymyn Cychwyn a fyddai’n cael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

16.Mae’r adran hefyd yn darparu bod y Mesur i gael ei gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg  sydd wedi’i nodi yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.  Bydd hynny’n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer pwerau diofyn os bydd awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu’n torri darpariaethau’r Mesur hwn.