xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CCYFFREDINOL

51Diwygiadau canlyniadol etc a darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbedLL+C

(1)Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ar gyfer Rhan 1 o'r Mesur hwn.

(2)Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ar gyfer Rhan 2 o'r Mesur hwn.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth drwy orchymyn y bydd Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw ddibenion penodol, y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy'r Mesur hwn, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o'r fath.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4) wneud y canlynol yn benodol—

(a)darparu bod unrhyw ddiwygiad neu unrhyw ddarpariaeth arall a wneir drwy'r Mesur hwn ac sy'n dod i rym cyn y bydd unrhyw ddarpariaeth arall wedi dod i rym yn cael effaith, hyd nes y bydd y ddarpariaeth arall honno wedi dod i rym, gydag addasiadau penodedig, a

(b)diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaeth mewn—

(i)unrhyw Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(ii)is-ddeddfwriaeth.

(6)Mae'r diwygiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (5)(b) yn ychwanegol at y rhai a wneir neu y caniateir eu gwneud o dan unrhyw un o ddarpariaethau eraill y Mesur hwn.

(7)Yn yr adran hon mae i “is-ddeddfwriaeth” yr un ystyr â “subordinate legislation” yn Neddf Ddehongli 1978 (p. 30).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 51(4)-(7) mewn grym ar 10.6.2009, gweler a. 53(1)

I2A. 51(1) mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2 (ynghyd ag ergl. 3(2)-(5)) (as diwygio (8.9.2010) gan O.S. 2010/2237, ergl. 2)

I3A. 51(2)(3) mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1