RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL

Gwella: materion atodol

4Agweddau ar wella

(1)

Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer ystyron paragraffau (a) i (g) o'r canlynol—

(a)

adran 2(2);

(b)

adran 3(3); ac

(c)

adran 8(5).

(2)

Mae awdurdod gwella Cymreig yn gwella'r modd y mae'n arfer ei swyddogaethau o ran—

(a)

effeithiolrwydd strategol, os yw'n arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy'n rhesymol debyg o arwain at fodloni, neu helpu i fodloni, unrhyw un o'i amcanion strategol;

(b)

ansawdd gwasanaethau, os oes gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau;

(c)

argaeledd gwasanaethau, os oes gwelliant o ran y gwasanaethau sydd ar gael;

(d)

tegwch, os—

(i)

caiff anfanteision sy'n wynebu grwpiau penodol wrth geisio mynediad i wasanaethau, neu wrth geisio cymryd mantais lawn ohonynt, eu lleihau; neu

(ii)

caiff llesiant cymdeithasol ei wella o ganlyniad i ddarparu gwasanaethau neu i'r modd yr arferir swyddogaethau fel arall;

(e)

cynaliadwyedd, os caiff gwasanaethau eu darparu neu swyddogaethau eu harfer fel arall mewn modd sy'n cyfrannu at gyrraedd datblygiad cynaliadwy yn ardal yr awdurdod;

(f)

effeithlonrwydd, os oes gwelliant o ran effeithlonrwydd y modd y mae adnoddau'n cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau neu o ganlyniad i'r modd y caiff swyddogaethau eu harfer fel arall; ac

(g)

arloesi, os caiff y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu neu swyddogaethau'n cael eu harfer fel arall ei newid mewn modd sy'n rhesymol debyg o arwain at unrhyw ganlyniad sydd wedi ei ddisgrifio ym mharagraffau (a) i (f).

(3)

At ddibenion is-adran (2)(a), amcanion strategol awdurdod gwella Cymreig yw'r canlynol—

(a)

yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, yr amcanion strategaeth gymunedol sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth gymunedol gyfredol ar gyfer ardal yr awdurdod;

(b)

yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol—

(i)

unrhyw amcanion strategaeth gymunedol perthnasol; a

(ii)

os yw Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol yr awdurdod yn cynnwys amcanion i'r awdurdod eu cyrraedd wrth arfer ei swyddogaethau, yr amcanion hynny;

(c)

yn achos awdurdod tân ac achub Cymreig—

(i)

unrhyw amcanion strategaeth gymunedol perthnasol; a

(ii)

os yw'r awdurdod wedi penderfynu gosod amcanion iddo'i hun mewn ymateb i ganllawiau sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, yr amcanion hynny.

(4)

At ddibenion yr adran hon—

(a)

ystyr “strategaeth gymunedol gyfredol” (“current community strategy”) yw'r strategaeth gymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol a gyhoeddwyd o dan adran 39(4) neu, pan fo'r strategaeth wedi'i diwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 41, y strategaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 41(6);

(b)

ystyr “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub” (“Fire and Rescue National Framework”) yw'r Fframwaith a baratowyd gan Weinidogion Cymru ac sy'n cael effaith o dan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (gan gynnwys unrhyw adolygiadau o'r Fframwaith sy'n cael effaith o dan yr adran honno);

(c)

ystyr “Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol” (“National Park Management Plan”) yw'r Cynllun sydd wedi ei gyhoeddi gan awdurdod Parc Cenedlaethol o dan adran 66 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau i'r Cynllun sydd wedi eu cyhoeddi o dan is-adran (6) o'r adran honno);

(d)

ystyr “amcan strategaeth gymunedol perthnasol” (“relevant community strategy objective”) yw amcan sydd—

(i)

wedi'i gynnwys mewn strategaeth gymunedol gyfredol y bu'r awdurdod ynghlwm wrth ei llunio fel partner cynllunio cymunedol (o fewn ystyr adran 38); a

(ii)

yn gysylltiedig â swyddogaethau'r awdurdod;

(e)

mae cyfeiriad at wasanaethau yn gyfeiriad at—

(i)

gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau;

(ii)

gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan unrhyw berson arall o dan drefniadau a wnaed gan yr awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau.