RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL

Strategaethau cymunedol

39Llunio strategaeth gymunedol

1

Pan fydd cynllunio cymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol wedi cyrraedd y pwynt a ddisgrifir yn is-adran (2), rhaid i'r awdurdod lunio dogfen (y cyfeirir ati yn y Mesur hwn fel “strategaeth gymunedol”) sy'n cynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (3).

2

Cyrhaeddir y pwynt y cyfeiriwyd ato yn is-adran (1) pan fo'r awdurdod o'r farn bod maint y consensws ymhlith y partneriaid cynllunio cymunedol a'r awdurdod—

a

ynghylch amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod yn golygu ei bod yn briodol gosod yr amcanion hynny yn y strategaeth gymunedol; a

b

ynghylch y camau sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny yn golygu ei bod yn briodol eu disgrifio yn y strategaeth gymunedol.

3

Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y strategaeth gymunedol yw—

a

disgrifiad o'r amcanion strategaeth gymunedol y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol eu gosod gan roi sylw i'r consensws y cyfeiriwyd ato yn is-adran (2)(a); a

b

disgrifiad o'r camau sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol eu cynnwys yn y strategaeth gan roi sylw i'r consensws y cyfeiriwyd ato yn is-adran (2)(b).

4

Rhaid i'r strategaeth gymunedol—

a

cael ei llunio cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gynllunio cymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod gyrraedd y pwynt sydd wedi ei ddisgrifio yn is-adran (2); a

b

pan fo wedi'i llunio, cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gan yr awdurdod.