RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL

Gweinidogion Cymru

32Gorchmynion o dan adran 31: y weithdrefn

(1)

Cyn bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt ymgynghori ag unrhyw awdurdodau neu bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau yr effeithir arnynt gan gynigion Gweinidogion Cymru.

(2)

Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori o dan is-adran (1), yn cynnig gwneud gorchymyn o dan adran 31, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen sy'n esbonio eu cynigion ac, yn benodol—

(a)

sy'n gosod eu cynigion ar ffurf gorchymyn drafft; a

(b)

sy'n rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (1).

(3)

Pan fo dogfen sy'n ymwneud â chynigion yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2), rhaid i ddrafft o orchymyn o dan adran 31 i roi effaith i'r cynigion (gydag addasiadau neu hebddynt) beidio â chael ei osod gerbron y Cynulliad tan ar ôl i'r cyfnod o drigain niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ei gosod ddirwyn i ben.

(4)

Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3), rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(5)

Wrth baratoi gorchymyn drafft o dan adran 31 rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (3).

(6)

Ynghyd â gorchymyn drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 50(6), rhaid bod datganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—

(a)

unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (5), a

(b)

unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi'u cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (2) uchod.

(7)

Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 31 sydd wedi'i wneud yn unswydd at y diben sydd wedi ei grybwyll yn adran 50(7).