xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Swyddogaethau eraill Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

27FfioeddLL+C

(1)Rhaid i [F1Swyddfa Archwilio Cymr] ragnodi graddfeydd ffioedd mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)archwiliadau a gynhelir o dan adran 17;

(b)asesiadau a gynhelir o dan adran 18;

(c)arolygiadau arbennig.

(2)Caniateir i raddfeydd gwahanol gael eu rhagnodi mewn cysylltiad â'r gweithgareddau gwahanol sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (1), gwahanol fathau o'r un gweithgaredd a gwahanol fathau o awdurdod gwella Cymreig.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), rhaid i awdurdod sy'n cael ei archwilio, ei asesu neu ei arolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1), dalu i [F2Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun i godi ffioedd a baratowyd o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,] y ffi sy'n daladwy o dan y raddfa briodol.

(4)Os yw'n ymddangos [F3i Swyddfa Archwilio Cymru] fod y gwaith a oedd ynghlwm wrth archwiliad, asesiad neu arolygiad penodol yn sylweddol fwy neu'n sylweddol llai na'r hyn a ragwelwyd yn ôl y raddfa briodol, caiff [F3Swyddfa Archwilio Cymru] godi ffi sy'n fwy neu'n llai na'r hyn y cyfeiriwyd ato yn is-adran (3).

[F4(4A)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi.]

(5)Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon, rhaid [F5i Swyddfa Archwilio Cymru] ymgynghori â'r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)personau y mae'n ymddangos [F5i Swyddfa Archwilio Cymru] eu bod yn cynrychioli awdurdodau y caniateir eu harchwilio, eu hasesu neu eu harolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1).

F6(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 27 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2010) gan 2004 c. 21, a. 24(4)(5) (mewnosodwyd gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (nawm 2), a. 53(2), Atod. 1 para. 33; O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 27 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2