xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru baratoi datganiad o arfer sy'n disgrifio'r ffordd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn is-adran (4).
(2)Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
(a)adolygu'r datganiad; a
(b)os yw'r Archwilydd Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol ar ôl adolygiad, paratoi datganiad o arfer diwygiedig.
(3)Rhaid i'r datganiad o arfer gydweddu â'r egwyddorion a ddisgrifir yn is-adran (5).
(4)Y swyddogaethau yw'r rhai a roddir i'r Archwilydd Cyffredinol gan—
(a)adran 17 (gwybodaeth am welliannau a chynllunio gwelliannau: archwilio);
(b)adran 18 (asesiadau gwella);
(c)adran 19 (adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu);
(d)adran 23 (cydlynu archwiliad etc);
(e)adran 24 (adroddiadau gwella blynyddol).
(5)Yr egwyddorion yw—
(a)y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yn gyson yn y modd y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau ymhlith gwahanol awdurdodau gwella Cymreig;
F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)ei bod yn ddymunol bod swyddogaethau perthnasol y rheoleiddwyr perthnasol a swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol a ddisgrifir yn adran 23(7) yn cael eu harfer yn gymesur er mwyn peidio â gosod baich afresymol ar awdurdodau gwella Cymreig;
(d)y dylai'r swyddogaethau yn is-adran (4) gael eu harfer gyda golwg ar gynorthwyo awdurdodau gwella Cymreig i gydymffurfio â gofynion y Rhan hon.
(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru anfon copi o ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a baratowyd o dan is-adran (1) at Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.
(7)Os caiff y datganiad neu'r datganiad diwygiedig ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi'r datganiad neu'r datganiad diwygiedig.
(8)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-adran (7) wrth arfer y swyddogaethau a ddisgrifiwyd yn is-adran (4).
Diwygiadau Testunol
F1A. 25(5)(b) wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3), a. 35(2), Atod. 4 para. 85 (ynghyd ag Atod. 3 parau. 2, 3); O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 25 mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(j)