(1)Mewn perthynas â phob awdurdod gwella Cymreig, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, adroddiad (“adroddiad gwella blynyddol”) sy'n crynhoi neu'n atgynhyrchu'r adroddiadau sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (2).
(2)Yr adroddiadau yw—
(a)pob adroddiad a ddyroddir mewn cysylltiad â'r awdurdod yn ystod y flwyddyn ariannol honno o dan adran 19;
(b)unrhyw adroddiad o arolygiad arbennig o awdurdod a ddyroddir o dan adran 22 yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)cyhoeddi adroddiad gwella blynyddol pob awdurdod gwella Cymreig;
(b)pwyso a mesur, yng ngoleuni adroddiad gwella blynyddol awdurdod, a ddylid—
(i)argymell i reoleiddiwr perthnasol ynghylch sut y dylai'r rheoleiddiwr arfer swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;
(ii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pŵer o dan adran 28;
(iii)argymell i Weinidogion Cymru eu bod yn rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdod o dan adran 29;
(iv)arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â'r awdurdod;
(c)cyflwyno unrhyw argymhelliad sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (b)(i) i (iii) ac y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu y dylid ei gyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)
I2A. 24 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2
I3A. 24(2)(a) mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2009/3272, ergl. 4, Atod. 3