RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL

Cynllunio gwelliannau a gwybodaeth am welliannau

15Cynllunio gwelliannau a chyhoeddi gwybodaeth am welliannau

(1)

Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau yn unol â'r adran hon ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth a ddisgrifir isod.

(2)

Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi—

(a)

asesiad yr awdurdod o'i berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol—

(i)

o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 2;

(ii)

o ran cyrraedd yr amcanion gwella y mae wedi'u gosod iddo'i hun o dan adran 3 ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iii)

drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(a) a dangosyddion perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iv)

o ran cyrraedd y safonau perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(b) a safonau perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(b)

asesiad yr awdurdod o'i berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod blwyddyn ariannol o gymharu'r perfformiad hwnnw â'r canlynol—

(i)

ei berfformiad yn y blynyddoedd ariannol blaenorol; a

(ii)

cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn ystod y flwyddyn ariannol honno a blynyddoedd ariannol blaenorol (i'r graddau y mae'r awdurdodau hynny'n arfer swyddogaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu harfer gan yr awdurdod);

(c)

manylion am y ffyrdd y mae'r awdurdod wedi arfer ei bwerau cydlafurio yn ystod blwyddyn ariannol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) yn ystod y flwyddyn honno neu ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni'r dyletswyddau hynny;

(d)

manylion am yr wybodaeth a gasglwyd o dan adran 13 mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a'r hyn y mae'r awdurdod wedi'i wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 14 mewn perthynas â'r flwyddyn honno.

(3)

Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn—

(a)

31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi; neu

(b)

unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)

Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â'r awdurdod a ddyroddir o dan adran 22.

(5)

Rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod y crynodeb yn cael ei gyhoeddi cyn—

(a)

31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y cafodd yr adroddiad ei ddyroddi ynddi; neu

(b)

unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(6)

Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) mewn blwyddyn ariannol a hynny, os gwêl yr awdurdod yn dda, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd dilynol (“cynllun gwella”).

(7)

Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi—

(a)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynllun yn ymwneud â hi; neu

(b)

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(8)

Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon.

(9)

Heb leihau neu estyn effaith natur gyffredinol is-adran (8), caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran honno fynd i'r afael â'r canlynol—

(a)

y modd y mae asesiadau o berfformiad i'w cynnal;

(b)

gwneud cynllun gwella, gan gynnwys yr weithdrefn sydd i'w dilyn.