xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL

Strategaethau cymunedol

39Llunio strategaeth gymunedol

(1)Pan fydd cynllunio cymunedol ar gyfer ardal awdurdod lleol wedi cyrraedd y pwynt a ddisgrifir yn is-adran (2), rhaid i'r awdurdod lunio dogfen (y cyfeirir ati yn y Mesur hwn fel “strategaeth gymunedol”) sy'n cynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (3).

(2)Cyrhaeddir y pwynt y cyfeiriwyd ato yn is-adran (1) pan fo'r awdurdod o'r farn bod maint y consensws ymhlith y partneriaid cynllunio cymunedol a'r awdurdod—

(a)ynghylch amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod yn golygu ei bod yn briodol gosod yr amcanion hynny yn y strategaeth gymunedol; a

(b)ynghylch y camau sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny yn golygu ei bod yn briodol eu disgrifio yn y strategaeth gymunedol.

(3)Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y strategaeth gymunedol yw—

(a)disgrifiad o'r amcanion strategaeth gymunedol y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol eu gosod gan roi sylw i'r consensws y cyfeiriwyd ato yn is-adran (2)(a); a

(b)disgrifiad o'r camau sydd i'w cyflawni a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol eu cynnwys yn y strategaeth gan roi sylw i'r consensws y cyfeiriwyd ato yn is-adran (2)(b).

(4)Rhaid i'r strategaeth gymunedol—

(a)cael ei llunio cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gynllunio cymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod gyrraedd y pwynt sydd wedi ei ddisgrifio yn is-adran (2); a

(b)pan fo wedi'i llunio, cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gan yr awdurdod.

40Strategaethau cymunedol: dyletswydd adolygu

(1)Rhaid i adolygiad o strategaeth gymunedol gael ei gwblhau'n unol ag adran 41—

(a)cyn pedwerydd pen blwydd y dyddiad y cafodd y strategaeth gymunedol ei chyhoeddi o dan adran 39(4); a

(b)ar ôl hynny, cyn pedwerydd pen blwydd y dyddiad y cafodd yr adolygiad diwethaf o'r strategaeth gymunedol ei gwblhau.

(2)At ddibenion yr adran hon ac adran 41, bydd adolygiad o strategaeth gymunedol wedi'i gwblhau—

(a)ar y dyddiad y caiff strategaeth gymunedol ddiwygiedig ei chyhoeddi o dan adran 41(6); neu

(b)os na fydd adolygiad yn arwain at unrhyw ddiwygiad i strategaeth gymunedol, ar y dyddiad y penderfynodd yr awdurdod lleol nad oedd yn ofynnol o dan adran 41(4) i'r strategaeth gael ei diwygio.

41Adolygiadau o strategaeth gymunedol

(1)Mae'r adran hon yn nodi'r broses y mae'n rhaid i strategaeth gymunedol gael ei hadolygu drwyddi.

(2)Rhaid i awdurdod lleol ac, yn ddarostyngedig i is-adran (3), ei bartneriaid cynllunio cymunedol—

(a)drwy gymryd i ystyriaeth unrhyw ddatganiad a gyhoeddwyd o dan adran 42(3) er y dyddiad y cafodd y strategaeth gymunedol ei llunio neu (yn ôl y digwydd) y dyddiad y cwblhawyd yr adolygiad diwethaf ohoni, bwyso a mesur i ba raddau—

(i)y mae'r amcanion strategaeth gymunedol, sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth, wedi'u cyrraedd;

(ii)os nad yw amcan wedi'i gyrraedd, y mae cynnydd wedi'i wneud tuag at gyrraedd yr amcan;

(b)yng ngoleuni'r pwyso a mesur o dan baragraff (a) ac unrhyw ffactorau eraill y bydd yr awdurdod neu bartner yn meddwl eu bod yn briodol, pwyso a mesur—

(i)a ddylid addasu'r amcanion strategaeth gymunedol;

(ii)a ddylid gosod amcanion newydd;

(iii)a ddylai'r disgrifiad yn y strategaeth o'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd un o'r amcanion strategaeth gymunedol gael eu haddasu (p'un ai yng ngoleuni addasiad o amcan neu am unrhyw reswm arall);

(iv)pan fo'r awdurdod neu'r partner yn credu y dylai amcan newydd gael ei osod, pa gamau y dylid eu cymryd a pha swyddogaethau y dylid eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcan.

(3)Dim ond i faterion sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau y mae dyletswydd partner cynllunio cymunedol o dan is-adran (2) yn ymestyn.

(4)Os caiff y gofyniad yn is-adran (5) ei fodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn sgil y pwyso a mesur sy'n ofynnol o dan is-adran (2), ddiwygio'r strategaeth gymunedol ar gyfer ei ardal drwy wneud y cyfan neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)addasu'r amcanion strategaeth gymunedol;

(b)gosod amcanion newydd;

(c)addasu'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn bodloni un o'r amcanion strategaeth gymunedol;

(d)disgrifio'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn bodloni amcan newydd.

(5)Y gofyniad yw bod yr awdurdod o'r farn, mewn perthynas â diwygiad arfaethedig, bod maint y consensws ymhlith y partneriaid cynllunio cymunedol a'r awdurdod mewn perthynas â'r diwygiad yn golygu ei bod yn briodol gwneud y diwygiad.

(6)Rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo ddod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan is-adran (4), gyhoeddi strategaeth gymunedol ddiwygiedig.

42Strategaethau cymunedol: monitro

(1)Rhaid i awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud i fonitro—

(a)y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd yr amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth gymunedol gyfredol; a

(b)effeithiolrwydd y camau sydd wedi eu cymryd a'r swyddogaethau sydd wedi eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny.

(2)Dim ond i faterion sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau y mae dyletswydd partner cynllunio cymunedol o dan is-adran (1) yn ymestyn.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi o dro i dro (ond o leiaf unwaith bob dwy flynedd) ddatganiad sy'n disgrifio—

(a) y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd yr amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ei ardal; a

(b)y camau sydd wedi eu cymryd a'r swyddogaethau sydd wedi eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny.

(4)Mae'n ddyletswydd ar bob partner cynllunio cymunedol i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wybodaeth y mae ar yr awdurdod angen rhesymol amdani er mwyn galluogi'r awdurdod i gydymffurfio â'i ddyletswydd o dan is-adran (3).

(5)Rhaid i'r datganiad cyntaf o dan is-adran (3) gael ei lunio o fewn dwy flynedd i'r dyddiad y cyhoeddir strategaeth gymunedol o dan adran 39(4).

43Strategaethau cymunedol: gweithredu

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol neu un o'i bartneriaid cynllunio cymunedol os yw'r strategaeth gymunedol gyfredol ar gyfer ardal yr awdurdod yn disgrifio—

(a)cam sydd i'w gyflawni gan yr awdurdod neu bartner er mwyn bodloni amcan strategaeth gymunedol; neu

(b)swyddogaeth sydd i'w harfer gan yr awdurdod neu bartner er mwyn bodloni amcan strategaeth gymunedol.

(2)Rhaid i'r awdurdod neu'r partner cynllunio cymunedol gymryd pob mesur rhesymol i gyflawni'r cam neu arfer y swyddogaeth yn unol â'r strategaeth gymunedol.