Nodiadau Esboniadol i Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 Nodiadau Esboniadol

Adran 18 - asesiadau gwella

36.Mae adran 18 yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal asesiad sy’n edrych ymlaen ac sy’n nodi i ba raddau y mae awdurdod gwella Cymreig yn debyg o fodloni gofynion Rhan 1 o’r Mesur yn y flwyddyn honno. O dan yr adran hon, gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal asesiad sy’n cwmpasu mwy na blwyddyn os dymuna. Wrth gynnal yr asesiad, byddai disgwyl i’r Archwilydd Cyffredinol gymryd i ystyriaeth wybodaeth a dogfennau perthnasol a dderbyniwyd gan reoleiddwyr ac arolygwyr eraill o dan adran 33.

Back to top