RHAN 4Amrywiol ac atodol

48Gorchmynion a rheoliadau

(1)

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchymyn o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)

Mae unrhyw bŵer o'r fath yn cynnwys pŵer—

(a)

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol;

(b)

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)

i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol neu'r cyfryw ddarpariaeth arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.