RHAN 4Amrywiol ac atodol
46Rheoliadau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm lleol
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn a grybwyllir yn is-adran (2), cânt wneud darpariaeth drwy reoliadau, at ddibenion penodedig deddfiad, ynghylch yr amgylchiadau—
(a)
pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—
(i)
yn un y mae addysg yn cael ei darparu ar ei gyfer mewn ysgol;
(ii)
yn ddisgybl ofrestredig ysgol neu riant cofrestredig disgybl o'r fath;
(iii)
yn un sydd mewn ysgol;
(iv)
yn un sy'n mynychu ysgol neu'n bresennol ynddi;
(v)
yn un sy'n cael addysg mewn ysgol;
(vi)
yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, mewn ysgol;
(vii)
yn un sy'n cael ei dderbyn i ysgol neu y gwrthodwyd ei dderbyn i ysgol;
(viii)
yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i ysgol, yn cynnig derbyn person i ysgol, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i ysgol neu'n penderfynu derbyniadau i ysgol;
(ix)
yn un sydd wedi penderfynu ym mha ysgol y darperir addysg i blentyn;
(x)
yn un y caniateir codi taliadau ar ei gyfer ynghylch cael ei dderbyn i ysgol a gynhelir.
(b)
pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer darparu addysg ar ran ysgol i'w hystyried yn drefniadau derbyn;
(c)
pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer galluogi mynegi dymuniadau ynghylch ym mha ysgol y mae'r person sy'n mynegi'r dymuniad yn dymuno y darperir addysg ar ei gyfer ei hun neu ar gyfer person arall yn gymwys;
(d)
pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—
(i)
yn un sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach;
(ii)
yn un sy'n mynychu'r sefydliad hwnnw, neu'n bresennol ynddo;
(iii)
yn fyfyriwr y sefydliad hwnnw, neu'n fyfyriwr sydd ynddo;
(iv)
yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, yn y sefydliad hwnnw;
(v)
yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn cynnig derbyn person i'r sefydliad hwnnw, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn dethol person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw neu'n penderfynu derbyniadau i'r sefydliad hwnnw;
(vi)
mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw, yn berson anabl.
(2)
Y farn yw bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol, yn ddymunol neu'n hwylus mewn cysylltiad â gweithredu'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21) gan F1Ran 2 o'r Mesur hwn.
(3)
Mae'r dibenion y caniateir eu pennu o dan is-adran (1) yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â gwneud rheoliadau neu orchymyn o dan ddeddfiad.
(4)
Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad—
(a)
sydd wedi'i gynnwys yn y Mesur hwn; neu
(b)
sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf Seneddol neu un o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gaiff ei basio ar ôl pasio'r Mesur hwn.