PART 3Services related to education, training and skills
Learning Pathways
44Llwybrau dysgu: dehongli
Yn yr adran hon ac yn adran 43—
F1mae i “awdurdod lleol yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;
mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);
ystyr “disgybl perthnasol” (“relevant pupil”) yw un o ddisgyblion cofrestredigysgol a gynhelir;
ystyr “myfyriwr perthnasol” (“relevant student”) yw person—
(a)
sy'n cael y rhan fwyaf o'i addysg mewn sefydliad, neu o dan drefniadau a wnaed gan gorff llywodraethu'r sefydliad hwnnw; a
(b)
nad yw wedi cyrraedd pedwar ar bymtheg oed neu unrhyw oedran yn ddiweddarach yn ei oes a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “pennaeth sefydliad” (“principal”) yw pennaeth neu brifathro neu brifathrawes arall sefydliad;
ystyr “sefydliad” (“institution”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, ac, o ran myfyriwr perthnasol, mae'n golygu'r sefydliad y mae ei gorff llywodraethu'n gyfrifol am ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y cyfan neu'r rhan fwyaf o addysg y myfyriwr perthnasol hwnnw;
mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn Neddf Addysg 1996 (p.56); ac
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—
(a)
unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan F2awdurdod lleol yng Nghymru, neu
(b)
ac, o ran disgybl perthnasol, mae'n golygu'r ysgol a gynhelir y mae'n ddisgybl cofrestredig ohoni.