PART 3Services related to education, training and skills
Learner support services
40Gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo person a grybwyllir yn is-adran (2)—
(a)
i ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr;
(b)
i sicrhau bod gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn cael eu darparu;
(c)
i gymryd rhan yn y broses o ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr.
(2)
Y personau yw—
(a)
corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;
(b)
corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(3)
Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr” yw gwasanaethau a fydd ym marn Gweinidogion Cymru yn annog, galluogi neu gynorthwyo personau ifanc (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol)—
(a)
i gymryd rhan effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant;
(b)
i fanteisio ar gyfleoedd i gael gwaith cyflogedig; neu
(c)
i gymryd rhan effeithiol a chyfrifol ym mywyd eu cymunedau.
(4)
Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
(a)
cynnwys darpariaeth ar gyfer grantiau, benthyciadau a mathau eraill o gymorth ariannol sydd i'w darparu gan Weinidogion Cymru (p'un ai o dan amodau ai peidio);
(b)
ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru;
(c)
ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu, wrth iddo wneud trefniadau â phersonau eraill, ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(5)
Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
(a)
ymwneud â dosbarthiad penodol o berson ifanc;
(b)
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o berson ifanc;
(c)
cael ei ddirymu neu ei amrywio gan gyfarwyddyd diweddarach.
(6)
Pan fo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn ymwneud â darparu gwasanaeth ar ffurf cyngor neu wybodaeth, rhaid iddo gael ei lunio fel ei fod—
(a)
yn ymwneud yn unig â gwybodaeth sydd wedi ei chyflwyno mewn modd diduedd; a
(b)
yn ymwneud yn unig â chyngor—
(i)
sydd wedi ei roi gan berson sy'n ystyried y bydd y cyngor hwnnw yn hyrwyddo lles pennaf y person ifanc o dan sylw; a
(ii)
nad yw'n ceisio hyrwyddo buddiannau neu ddyheadau unrhyw ysgol, sefydliad neu berson arall, yn groes i les pennaf y person ifanc.
(7)
Yn yr adran hon—
(a)
ystyr “personau ifanc” yw personau sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed ond nid chwech ar hugain oed;
(b)
mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56);
(c)
mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).