RHAN 3Gwasanaethau sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau

Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr

40Gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo person a grybwyllir yn is-adran (2)—

(a)i ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr;

(b)i sicrhau bod gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn cael eu darparu;

(c)i gymryd rhan yn y broses o ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr.

(2)Y personau yw—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(3)Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr” yw gwasanaethau a fydd ym marn Gweinidogion Cymru yn annog, galluogi neu gynorthwyo personau ifanc (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol)—

(a)i gymryd rhan effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant;

(b)i fanteisio ar gyfleoedd i gael gwaith cyflogedig; neu

(c)i gymryd rhan effeithiol a chyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

(4)Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)cynnwys darpariaeth ar gyfer grantiau, benthyciadau a mathau eraill o gymorth ariannol sydd i'w darparu gan Weinidogion Cymru (p'un ai o dan amodau ai peidio);

(b)ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru;

(c)ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu, wrth iddo wneud trefniadau â phersonau eraill, ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5)Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)ymwneud â dosbarthiad penodol o berson ifanc;

(b)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o berson ifanc;

(c)cael ei ddirymu neu ei amrywio gan gyfarwyddyd diweddarach.

(6)Pan fo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn ymwneud â darparu gwasanaeth ar ffurf cyngor neu wybodaeth, rhaid iddo gael ei lunio fel ei fod—

(a)yn ymwneud yn unig â gwybodaeth sydd wedi ei chyflwyno mewn modd diduedd; a

(b)yn ymwneud yn unig â chyngor—

(i)sydd wedi ei roi gan berson sy'n ystyried y bydd y cyngor hwnnw yn hyrwyddo lles pennaf y person ifanc o dan sylw; a

(ii)nad yw'n ceisio hyrwyddo buddiannau neu ddyheadau unrhyw ysgol, sefydliad neu berson arall, yn groes i les pennaf y person ifanc.

(7)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “personau ifanc” yw personau sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed ond nid chwech ar hugain oed;

(b)mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56);

(c)mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

41Dyletswyddau cyrff llywodraethu

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 40(1).

(2)Caniateir i gamau y mae corff llywodraethu yn eu cymryd yn unol ag is-adran (1) ymwneud â dosbarthiad penodol o berson ifanc.

42Diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000

(1)Mae Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21) wedi'i diwygio'n unol â'r adran hon.

(2)Yn is-adran (1) o adran 126 o'r Ddeddf honno, ar ôl “section 123(1)(a) or (b)” mewnosoder “or section 40(1)(a) or (b) of the Learning and Skills (Wales) Measure 2009”.

(3)Yn is-adran (1)(a) o adran 127 o'r Ddeddf honno, ar ôl “section 123(1)” mewnosoder “or section 40(1) of the Learning and Skills (Wales) Measure 2009”.