RHAN 3Gwasanaethau sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau
Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr
40Gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach
1
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo person a grybwyllir yn is-adran (2)—
a
i ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr;
b
i sicrhau bod gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn cael eu darparu;
c
i gymryd rhan yn y broses o ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr.
2
Y personau yw—
a
corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;
b
corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
3
Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr” yw gwasanaethau a fydd ym marn Gweinidogion Cymru yn annog, galluogi neu gynorthwyo personau ifanc (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol)—
a
i gymryd rhan effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant;
b
i fanteisio ar gyfleoedd i gael gwaith cyflogedig; neu
c
i gymryd rhan effeithiol a chyfrifol ym mywyd eu cymunedau.
4
Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
a
cynnwys darpariaeth ar gyfer grantiau, benthyciadau a mathau eraill o gymorth ariannol sydd i'w darparu gan Weinidogion Cymru (p'un ai o dan amodau ai peidio);
b
ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru;
c
ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu, wrth iddo wneud trefniadau â phersonau eraill, ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
5
Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
a
ymwneud â dosbarthiad penodol o berson ifanc;
b
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o berson ifanc;
c
cael ei ddirymu neu ei amrywio gan gyfarwyddyd diweddarach.
6
Pan fo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn ymwneud â darparu gwasanaeth ar ffurf cyngor neu wybodaeth, rhaid iddo gael ei lunio fel ei fod—
a
yn ymwneud yn unig â gwybodaeth sydd wedi ei chyflwyno mewn modd diduedd; a
b
yn ymwneud yn unig â chyngor—
i
sydd wedi ei roi gan berson sy'n ystyried y bydd y cyngor hwnnw yn hyrwyddo lles pennaf y person ifanc o dan sylw; a
ii
nad yw'n ceisio hyrwyddo buddiannau neu ddyheadau unrhyw ysgol, sefydliad neu berson arall, yn groes i les pennaf y person ifanc.
7
Yn yr adran hon—
a
ystyr “personau ifanc” yw personau sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed ond nid chwech ar hugain oed;
b
mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56);
c
mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
41Dyletswyddau cyrff llywodraethu
1
Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 40(1).
2
Caniateir i gamau y mae corff llywodraethu yn eu cymryd yn unol ag is-adran (1) ymwneud â dosbarthiad penodol o berson ifanc.
42Diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000
1
Mae Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21) wedi'i diwygio'n unol â'r adran hon.
2
Yn is-adran (1) o adran 126 o'r Ddeddf honno, ar ôl “section 123(1)(a) or (b)” mewnosoder “or section 40(1)(a) or (b) of the Learning and Skills (Wales) Measure 2009”.
3
Yn is-adran (1)(a) o adran 127 o'r Ddeddf honno, ar ôl “section 123(1)” mewnosoder “or section 40(1) of the Learning and Skills (Wales) Measure 2009”.