CYFLWYNIAD

1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Mawrth 2009 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 13 Mai 2009. Cawsant eu paratoi gan yr Adran dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn iddynt fod yn gymorth i ddeall y Mesur. Nid ydynt yn ffurfio rhan o'r Mesur ac ni chawsant eu hardystio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2.Mae angen darllen y Nodiadau ar y cyd â'r Mesur. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Mesur. Gan hynny, os yw'n ymddangos nad oes angen unrhyw esboniad neu unrhyw sylwadau ar adran neu ran o adran,  nis rhoddir.

SYLWADAU AR YR ADRANNAU

RHAN 1 Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4

3.Mae'r Rhan hon o'r Mesur yn mewnosod darpariaethau yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (DA 2002). Mae Rhan 7 yn ymwneud â'r cwricwlwm mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. O ganlyniad i Ran 1 o'r Mesur, gan hynny, caiff y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru ei ymestyn i gynnwys hawlogaethau disgyblion o ran y cwricwlwm lleol yng Nghyfnod Allweddol 4.

Mae adrannau 1-3 yn diwygio Deddf Addysg 2002

Adran 1 Dehongli

4.Mae'r adran hon yn darparu diffiniadau ychwanegol at y rhai a nodwyd eisoes yn adran 97 DA 2002, ac sy'n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Rhan honno. Mae'r diffiniadau ychwanegol yn darparu ystyr rhai o'r termau pwysicaf a ddefnyddir yn y darpariaethau a fewnosodir gan y Mesur hwn ynghylch y cwricwlwm lleol, sef:

5.“course of study”, a ddiffinnir drwy gyfeirio at gyrsiau a gymeradwyir o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Effaith hyn, er mwyn i gwrs astudio gael ei gynnwys mewn unrhyw gwricwlwm lleol a gaiff ei lunio gan AALl, yw bod yn rhaid iddo arwain at gymhwyster allanol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 2000;

6.“local curriculum” a “local curricula” sydd i'w dehongli yn unol ag adran 116A. Pan ddefnyddir y term “local curriculum” mewn perthynas ag ysgol disgybl, mae'n golygu'r cwricwlwm lleol sy'n gymwys mewn perthynas â'r ysgol honno. Mae hyn yn darparu ar gyfer y posibilrwydd y gall AALl o dan adran 116A lunio mwy nag un cwricwlwm lleol, e.e. cael cwricwla lleol gwahanol ar gyfer ysgolion mewn gwahanol rannau o'i ardal;

7.“maintained secondary school”, a ddiffinnir fel ysgol a gynhelir sy'n ysgol uwchradd ond nad yw'n ysgol gymunedol arbennig neu'n ysgol sefydledig arbennig;

8.“regulations” a ddiffinnir fel rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

9.school”. Mae'r diffiniad yn darparu bod “school”, o ran disgybl, yn golygu'r ysgol uwchradd a gynhelir lle y mae'n ddisgybl cofrestredig ynddi.

Adran 2 Dyletswydd i weithredu gofynion cyffredinol

10.Mae'r adran hon yn diwygio adran 100 o DA 2002. Mae adran 100 yn gweithredu drwy gyfeirio at adran 99 DA 2002 sydd ei hunan yn gosod rhestr o ofynion cyffredinol sy'n gymwys i'r cwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir, e.e. bod y cwricwlwm yn paratoi disgyblion yn yr ysgol ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd wedyn. Mae gan amryw o gyrff swyddogaethau o ran y cwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir. Mae adran 100 yn ei gwneud yn ofynnol bod y cyrff hyn, megis Gweinidogion Cymru ac awdurdodau addysg lleol, i arfer eu swyddogaethau mewn modd a fydd yn sicrhau bod gofynion adran 99 yn cael eu bodloni. Mae'r diwygiad a wneir gan yr adran hon i adran 100 yn sicrhau bod gofynion cyffredinol adran 99 hefyd yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau'r cwricwlwm lleol a grëir gan y Rhan hon o'r Mesur.

Adran 3 Y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru

11.Mae'r adran hon yn diwygio adran 101 o DA 2002. Mae adran 101 yn rhestru'r dulliau addysg hynny sy'n ffurfio'r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae'r diwygiad yn darparu bod  cwricwlwm sylfaenol ysgol hefyd yn cynnwys addysg sy'n bodloni hawlogaethau disgyblion o ran y cwricwlwm lleol.

Mae adrannau 4-18 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Addysg 2002

Adran 4 Llunio'r cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 (adran 116A o Ddeddf Addysg 2002)

12.Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer llunio yn ardal pob awdurdod addysg lleol gwricwlwm lleol neu gwricwla lleol ar gyfer disgyblion 14-16 oed (disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4).

13.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod addysg lleol i lunio o leiaf un cwricwlwm lleol i ddisgyblion 14-16 oed yn ei ardal.

14.Mae is-adran (2) yn datgan bod yn rhaid i gwricwlwm lleol gynnwys cyrsiau astudio addas sy'n dod o fewn y meysydd dysgu a osodir yn is-adran (3), ac a ddetholir gan yr awdurdod lleol. O dan is-adran (6), mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu drwy gyfarwyddyd pa gyrsiau astudio sy'n addas ar gyfer eu cynnwys mewn cwricwla lleol. Yna bydd yr awdurdod lleol yn dewis o'r rhestr honno o gyrsiau addas.

15.Mae is-adran (3) yn disgrifio'r meysydd dysgu sy'n ffurfio'r categorïau ym mhob cwricwlwm lleol.

16.Mae is-adran (4) yn darparu disgresiwn i awdurdodau lleol i lunio cwricwlwm lleol i fodloni anghenion lleol, yn ddarostyngedig i reoliadau y caniateir eu gwneud o dan is-adran (5).

17.Mae is-adran (5) yn gwneud darpariaeth i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o ran llunio cwricwlwm lleol, er enghraifft i osod lleiafswm nifer y cyrsiau y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cwricwlwm lleol neu leiafswm cyfran y cyrsiau astudio galwedigaethol sydd i'w cynnwys mewn cwricwlwm lleol.

18.Mae is-adran (6) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddynodi cwrs astudio yn un galwedigaethol ei natur neu'n “suitable” at ddibenion yr adran hon ac i bennu manylion y maes dysgu penodol y mae cwrs astudio yn cael ei osod ynddo.

19.Is-adran (7) – Mae hon yn caniatáu i reoliadau ddarparu ar gyfer gofynion gwahanol ar gyfer cwricwla lleol mewn ardaloedd gwahanol. Er enghraifft, fe all fod lleiafswm nifer o gyrsiau mewn rhai ardaloedd y mae'n rhaid eu cynnwys yn eu cwricwla lleol sy'n uwch nag ydyw mewn ardaloedd eraill.

Adran 5 Cwricwla lleol: Y Gymraeg (adran 116B o Ddeddf Addysg 2002)

20.Mae'r adran hon yn darparu, bod yn rhaid i awdurdodau addysg lleol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o ran y cwricwlwm lleol, hybu mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd hyrwyddo’r ffaith eu bod ar gael. Bydd hyn yn gymwys, er enghraifft, i'r awdurdodau pan fyddant yn llunio eu cwricwlwm lleol ar gyfer eu hardal. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, bydd awdurdodau addysg lleol hefyd o dan ddyletswydd i roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae'r adran hefyd yn gosod gofyniad i adrodd ar awdurdodau addysg lleol ynghylch arfer eu swyddogaethau o dan yr adran.

21.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol arfer ei swyddogaethau o ran cwricwla lleol mewn modd a fydd yn hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd yn hyrwyddo’r ffaith eu bod ar gael.

22.Mae is-adran (2) yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni'r ddyletswydd a roddir arnynt o dan is-adran (1).

23.Mae is-adran (3) yn darparu y gellir rhoi canllawiau a ddyroddir o dan is-adran (2) i awdurdod unigol, i ddosbarth o awdurdodau neu i bob awdurdod yn gyffredinol.

24.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol o fewn dau fis ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd, baratoi adroddiad i'w gyflwyno i Weinidogion Cymru. Rhaid i'r adroddiad:

(a)

disgrifio'r cyrsiau astudio mewn cwricwla lleol, ar gyfer y flwyddyn honno, sydd i'w haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

(b)

disgrifio'r nifer o ddisgyblion a wnaeth ddewis dilyn y cyfryw gyrsiau a pha nifer gafodd hawlogaeth ganddynt i wneud hynny;

(c)

esbonio cynlluniau'r awdurdod mewn blynyddoedd academaidd diweddarach, er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion cofrestredig ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod i ddilyn cyrsiau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

25.Mae is-adran (5) yn diffinio “academic year” at ddibenion is-adran (4) fel y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Medi.

Adran 6 Awdurdodau â mwy nag un cwricwlwm lleol (adran 116C o Ddeddf Addysg 2002)

26.Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd awdurdod lleol yn llunio mwy nag un cwricwlwm lleol o dan adran 116A o Ddeddf Addysg 2002 ( fel y’i mewnosodwyd gan adran 4 o’r Mesur hwn).

27.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol ddynodi'r ysgolion uwchradd a gynhelir y mae pob cwricwlwm lleol yn gymwys iddynt. Yn sgíl y darpariaethau a ddisgrifir isod, mae hawl gan ddisgyblion cofrestredig ysgolion uwchradd a gynhelir i ddewis dilyn cyrsiau astudio a gynhwysir yn y cwricwlwm lleol ar gyfer eu hysgol.

Adran 7 Dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol (adran 116D o Ddeddf Addysg 2002)

28.Mae'r adran hon yn dechrau'r broses sy'n peri bod gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cyrsiau astudio a gynhwysir yn y cwricwlwm lleol sy'n gymwys i'w ysgol. O dan yr adran hon, mae hawl gan ddisgyblion i ddewis dilyn cwrs astudio penodol. Mae darpariaethau diweddarach yn penderfynu a yw'r dewis hwnnw i gael ei drosi'n hawlogaeth i ddilyn y cwrs astudio o dan sylw.

29.Mae is-adran (1) yn gosod hawliau disgyblion i ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau, yn ystod Cyfnod Allweddol 4, o'r cwricwlwm lleol cymwys. Er hynny, mae'r hawliau yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

30.Mae is-adran (2) yn galluogi gwneud rheoliadau a allai, er enghraifft, bennu uchafswm nifer y cyrsiau y gall disgybl dewis eu dilyn o’r cwricwlwm lleol cyfan, nodi nifer y ‘pwyntiau’ sy’n gysylltiedig â chyrsiau penodol a gosod uchafswm nifer y ‘pwyntiau’ crynswth na ddylid mynd y tu hwnt iddynt gan ddewis y disgybl o gyrsiau a’r cyfnod lle mae’r dewisiadau hynny i gael eu gwneud. Gall fod angen cyfyngu ar y cyfnod ar gyfer gwneud dewisiadau fel bod yr asiantaethau perthnasol, ar ôl hynny, yn cael digon o amser i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer cyflenwi’r cyrsiau astudio a ddewiswyd (y gellir eu cyflenwi o bosibl gan ysgol neu sefydliad heblaw'r un a fynychir wrth wneud y dewisiadau).

Adran 8 Hawlogaethau disgyblion o ran y cwricwlwm lleol (adran 116E o Ddeddf Addysg 2002)

31.Mae’r adran hon yn darparu bod dewis a wneir gan ddisgybl o dan adran 7/116D yn hawlogaeth ‘mewn egwyddor’ i ddilyn y cwrs astudio a ddewiswyd. Bydd yn dod yn hawlogaeth go iawn oni bai bod achlysur y darperir ar ei gyfer yn yr adran hon yn digwydd.

32.Mae is-adran (1) yn pennu bod hawlogaeth disgybl yn dod i ben os bydd yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, er enghraifft, os bydd yn gadael ardal yr awdurdod addysg lleol ac yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol sydd mewn ardal wahanol yng Nghymru, neu os, cyn cychwyn cyfnod allweddol pedwar, bod pennaeth ysgol y disgybl wedi penderfynu, o dan adran 116F o DA 2002, nad oes hawlogaeth gan y disgybl i ddilyn y cwrs astudio a ddewiswyd.

33.Mae is-adran (2) yn pennu, pan fydd hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio mai’r pennaeth sydd i benderfynu pryd mae’r cwrs astudio i ddechrau.

Adran 9 Penderfyniad pennaeth ysgol ynghylch hawlogaeth (adran 116F o Ddeddf Addysg 2002)

34.Mae is-adran (1) yn caniatáu i benaethiaid ysgol benderfynu, ar seiliau penodedig, nad oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio penodol.

35.Mae is-adran (2) yn pennu ar ba sail y gall pennaeth ysgol benderfynu nad oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio.

Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn  rheoliadau, i wneud darpariaeth sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau o dan is-adran(1).  Er enghraifft, darpariaeth ar gyfer pa amser neu pa ddyddiad y mae penderfyniadau i'w gwneud a'r weithdrefn sydd i'w dilyn mewn achosion o'r fath, ar gyfer apelau i gorff llywodraethu ysgol neu i berson arall a bennir yn y rheoliadau, yr amser neu'r dyddiad ar gyfer dyfarnu apelau a'r weithdrefn sydd i'w dilyn mewn cysylltiad â dyfarnu apelau o'r fath.

36.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth yr ysgol a'r person y gosodwyd arno'r cyfrifoldeb i ddyfarnu apelau o dan y rheoliadau, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r dull y caiff swyddogaethau eu harfer o dan yr adran hon.

37.Mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i newid y sail dros ddiddymu’r hawlogaeth.

Adran 10 Cyflawni hawlogaethau’r cwricwlwm lleol (adran 116G o Ddeddf Addysg 2002)

38.Mae'r adran hon yn pennu'r ddyletswydd a osodir ar gorff llywodraethu ysgol i gyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol yn ystod Cyfnod Allweddol 4. Mae'r adran yn darparu lle y mae gan ddisgybl hawl   i ddilyn cwrs, rhaid bod y cwrs ar gael i'r disgybl gan, neu ar ran, corff llywodraethu ei ysgol. Mae hyn yn golygu y gellir cynnig cyrsiau astudio o fewn y cwricwlwm lleol mewn lleoliad dysgu gwahanol i’r lleoliad lle y mae’r disgybl wedi’i gofrestru.

Adran 11 Penderfyniad pennaeth ysgol i ddileu hawlogaeth (adran 116H o Ddeddf Addysg 2002)

39.Weithiau, bydd angen dileu hawlogaeth disgybl i ddilyn cwrs astudio, am resymau iechyd a diogelwch, er enghraifft. Gosodir ar ba sail y gall pennaeth ysgol benderfynu na fydd gan ddisgybl hawlogaeth bellach i ddilyn cwrs astudio yn is-adran (2).

40.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn  rheoliadau, i wneud darpariaeth bellach sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau o dan yr adran hon gan gynnwys:

(a)

y weithdrefn benderfynu;

(b)

darpariaeth ar gyfer apelau i gorff llywodraethu ysgol neu i berson arall a bennir yn y rheoliadau;

(c)

darpariaeth ynghylch effaith penderfyniad hyd nes y ceir dyfarniad ar apêl;

(d)

y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn cysylltiad â dyfarnu apêl.

41.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth yr ysgol a'r person y gosodwyd arno'r cyfrifoldeb i ddyfarnu apelau o dan y rheoliadau, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o ran arfer y swyddogaethau o dan yr adran hon.

42.Mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i newid y sail dros ddiddymu’r hawlogaeth.

Adran 12 Cynllunio'r cwricwlwm lleol (adran 116I o Ddeddf Addysg 2002)

43.Bydd penderfyniad awdurdod lleol ynghylch pa gyrsiau astudio i’w cynnwys yn ei gwricwla lleol o dan adran 116A yn dibynnu i raddau helaeth ar y cynhwysedd addysgol lleol. Ychydig iawn o werth fyddai i gynnwys cyrsiau nad yw ysgolion lleol a Sefydliadau Addysg Bellach yn medru eu cyflenwi. Yn unol â hynny, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol bod y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu addysg i ddisgyblion 14 i 16 oed o fewn ardal awdurdod addysg lleol yn cynorthwyo’r awdurdod i gynllunio ei gwricwla lleol.

44.Mae is-adran (1) yn pennu bod yn rhaid i’r personau canlynol gynorthwyo’r awdurdod lleol yn hyn o beth:

(a)

corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir sydd wedi'i lleoli yn ardal yr awdurdod;

(b)

pennaeth unrhyw ysgol o'r fath;

(c)

corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod; a

(d)

pennaeth unrhyw sefydliad Addysg Bellach o'r fath.

45.Mae is-adran (2) yn diffinio “planning the local curriculum or curricula” fel y broses y mae awdurdod addysg lleol yn ei defnyddio i benderfynu pa gyrsiau astudio i'w cynnwys yn y cwricwlwm neu'r cwricwla lleol. Mae is-adran (3) yn darparu bod Gweinidogion Cymru’n dyroddi canllawiau ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch arfer swyddogaethau person o dan yr adran hon ac yn ei gwneud yn ofynnol  i'r personau hynny roi sylw i'r canllawiau a chydymffurfio â'r cyfarwyddiadau.

46.Nid yw’r adran hon yn atal rhag gwneud cynlluniau ar gyfer cydweithredu ar draws yr awdurdodau wrth ddarparu cyrsiau y cwricwlwm lleol, er enghraifft bod Sefydliad Addysg Bellach yn darparu cwrs astudio ar ran ysgolion sydd mewn ardal awdurdod addysg lleol gwahanol i’r un lle lleolir y sefydliad. Serch hynny, bydd unrhyw drefniant o’r fath yn gwbl wirfoddol ac ni fyddant yn amodol ar y ddyletswydd a’r rheolaethau canolog (Gweinidogion Cymru) a ddarparwyd ar eu cyfer yn yr adran hon.

Adran 13 Cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio (adran 116J o Ddeddf Addysg 2002)

47.Fel a nodir yn is-adran (1), amcan yr adran hon yw sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau astudio ar gael o fewn cwricwlwm lleol.

48.Mae is-adrannau (2) a (4), yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu ysgol uwchradd  a gynhelir a sefydliad addysg bellach i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau amcan yr adran hon.

49.Mae is-adran (3) yn darparu bod y ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau amcan yr adran yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, dyletswydd i geisio ymrwymo mewn trefniadau cydweithredu, lle y mae'r personau perthnasol wedi penderfynu y byddai'n hyrwyddo amcan yr adran i ymrwymo mewn trefniadau o'r fath.

50.Diffinnir “co-operation arrangement” yn is-adran (5) i olygu trefniant lle y mae unrhyw berson yn darparu cwrs astudio ar ran corff llywodraethu ysgol a gynhelir, neu drefniadau a wneir o dan reoliadau o dan adrannau 26 o Ddeddf Addysg 2002 a 166 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, sy'n drefniadau cydweithio mwy ffurfiol a allai gynnwys, er enghraifft, sefydlu cyd-bwyllgor.

51.Mae is-adran (6) yn diffinio “relevant local curriculum” at ddibenion yr adran hon.

Adran 14 Cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau (adran 116K o Ddeddf Addysg 2002)

52.Mae’r adran hon yn ymwneud â’r ymrwymiadau i gydweithio a osodir gan adran 116J. Mae’n ofynnol i awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu ysgol uwchradd a gynhelir a chorff llywodraethu sefydliad addysg bellach roi ystyriaeth i’r canllawiau neu gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’u swyddogaethau o dan adran 116J.

53.Mae is-adran (4) yn ei gwneud hi’n glir y caiff cyfarwyddiadau a osodir gan yr adran hon ei gwneud hi'n ofynnol i sefydlu trefniant cydweithredol penodol o dan adran 116J.  Mewn achos o gyfarwyddyd i ymrwymo mewn trefniadau i gydweithredu gyda pharti arall nad yw’n Awdurdod Addysg Lleol, yn gorff llywodraethu ysgol neu’n gorff llywodraethu Sefydliad Addysg Bellach, rhaid peidio â rhoi cyfarwyddyd o’r fath heb gydsyniad y parti hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys sefydliadau eraill sy’n darparu cyrsiau astudio sy’n rhan o’r cwricwlwm lleol, er enghraifft, darparwyr hyfforddiant preifat neu gyrff yn y sector gwirfoddol.

Adran 15 Pŵer i ddiwygio meysydd dysgu (adran 116L o Ddeddf Addysg 2002)

54.Mae'r ddarpariaeth hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio a gwneud newidiadau eraill i adran 116A(3). Byddai hyn, er enghraifft, yn caniatáu creu meysydd dysgu newydd.

Adran 16 Cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig (adran 116M o Ddeddf Addysg 2002)

55.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio rheoliadau i gymhwyso’r darpariaethau cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir. Darperir diffiniad o’r rhai fyddai’n perthyn i’r categori hwn yn is-adran (3).  Mae’r diffiniad yn dal plant o oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn y cyfan, neu’r rhan fwyaf, o’u haddysg o dan drefniadau a wneir gan Sefydliadau Addysg Bellach ac nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir.

Adran 17 Cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant sydd yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig (adran 116N o Ddeddf Addysg 2002)

56.Nid yw’r Rhan hon o’r Mesur yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion arbennig. Fodd bynnag, mae is-adran (1) yn caniatáu gwneud rheoliadau i gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol ynglŷn â disgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig.

57.Mae is-adran (2) yn caniatáu gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) i gymhwyso’r cwricwlwm lleol gyda diwygiadau y gallai bod eu hangen, er enghraifft, er mwyn cymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau y mae ysgolion arbennig yn gweithredu ynddynt.

Adran 18 Cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau (adran 116O o Ddeddf Addysg 2002)

58.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn glir bod unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 116A, llunio cwricwla lleol, 116I cynllunio’r cwricwlwm lleol ac 116K, gweithio ar y cyd, yn gallu cael eu hamrywio neu eu dirymu gan gyfarwyddyd pellach.

Mae adrannau 19 a 20 yn diwygio Deddf Addysg 2002

Adran 19 Pwerau i newid neu ddileu gofynion ar gyfer y pedwerydd cyfnod allweddol

59.Mae'r adran hon yn diwygio adran 107 o Ddeddf Addysg 2002. Mae adran 107 yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, newid neu ddileu gofynion ar gyfer y pedwerydd cyfnod allweddol. Mae’r diwygiad hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud y newidiadau angenrheidiol i Ddeddf Addysg 2002 o ganlyniad i orchymyn o’r fath.

Adran 20 Rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn

60.Mae’r adran hon yn diwygio adran 210 o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn darparu rheolaeth i’r Cynulliad dros reoliadau a gorchmynion a wneir o dan y darpariaethau a fewnosodir gan y Mesur hwn yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002. Y weithdrefn berthnasol yw’r weithdrefn penderfyniad negyddol ym mhob achos ac eithrio pan wneir gorchymyn o dan adrannau 116F(5), 116H(5) ac 116L, sydd, oherwydd y byddai’n newid deddfwriaeth sylfaenol, yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.

RHAN 2 CWRICWLWM LLEOL AR GYFER MYFYRWYR 16 I 18 OED

61.Mae'r Rhan hon o'r Mesur yn mewnosod darpariaethau yn Rhan 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Mae Rhan 2 o’r Ddeddf honno’n ymwneud â’r chweched dosbarth ac addysg bellach yng Nghymru. Gan mwyaf, mae’r darpariaethau a fewnosodir yn adlewyrchu, gyda newidiadau priodol i adlewyrchu strwythur gwahanol addysg bellach, y ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â’r cwricwlwm lleol ar gyfer plant 14 i 16 oed gan Ran 1 o’r Mesur hwn.

Mae adrannau 21 – 39 yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000, a hynny drwy fewnosod adrannau newydd yn y rhan fwyaf o achosion.

Adran 21 Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 18 oed

62.Mae Adran 31 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn gosod dyletswyddau cyffredinol ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag addysg bellach yng Nghymru. Mae'r adran hon o'r Mesur yn diwygio adran 31 fel bod y dyletswyddau cyffredinol hynny hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r cwricwla lleol a grëir o dan y darpariaethau canlynol.

Adran 22 Llunio cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed (adran 33A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

63.Mae’r adran hon yn darparu bod pob ardal awdurdod addysg lleol yn llunio o leiaf un cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed yng Nghymru.

64.Mae is-adran (1) yn darparu mai dyletswydd Gweinidogion Cymru yw llunio cwricwla lleol o dan yr adran hon. Yn unol â hynny, defnyddir dulliau gwahanol mewn perthynas â disgyblion 16 i 18 oed i’r rhai a ddefnyddir o dan Ran 1 o’r Mesur mewn perthynas â disgyblion 14 i 16 oed. Mae hyn o ganlyniad i gyfrifoldebau cyllidol. Mae Gweinidogion Cymru’n uniongyrchol gyfrifol am ariannu addysg bellach yng Nghymru ac mae’n briodol felly eu bod yn llunio'r cwricwla lleol. Cyfyngir cynnwys y cwricwla lleol gan yr adnoddau sydd ar gael ac mae’n angenrheidiol felly bod y corff sy’n rheoli’r adnoddau hefyd yn rheoli cynnwys y cwricwla lleol.

65.Mae is-adran (2) yn datgan bod yn rhaid i’r cwricwlwm lleol gynnwys cyrsiau astudio sy’n dod o fewn y meysydd dysgu a ddisgrifir yn is-adran (3) ac sydd wedi’u dethol gan Weinidogion Cymru. Bydd Gweinidogion Cymru, os byddant yn gweld yn dda i wneud hynny, yn gallu trefnu o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 bod awdurdod perthnasol yn arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon. Er enghraifft, gallai Gweinidogion Cymru drefnu gydag awdurdod addysg lleol ei fod yn dethol ar ran Gweinidogion Cymru y cyrsiau astudio sydd i’w cynnwys yn y cwricwlwm lleol ar gyfer ardal yr awdurdod.

66.Mae is-adran (3) yn diffinio'r meysydd dysgu sy’n ffurfio categorïau’r cwricwlwm lleol. Mae’r rhain yn cyfateb i’r rhai ar gyfer disgyblion 14 i 16 oed yng Nghyfnod Allweddol 4 i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cynnydd a dilyniant drwy gydol y cyfnod addysgol 14-18 oed.

67.Mae is-adran (4) yn darparu bod cwrs astudiaeth yn dod o fewn maes dysgu penodol os ceir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru sy’n darparu hynny.

Adran 23 Cwricwla lleol: Y Gymraeg (adran 33B o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

68.Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd hyrwyddo’r ffaith eu bod ar gael wrth arfer eu swyddogaethau ynghylch cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed.

Adran 24 Ardaloedd â mwy nag un cwricwlwm lleol (adran 33C o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

69.Mae’r adran hon yn gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru’n llunio mwy nag un cwricwlwm lleol o dan adran 33A.

70.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddynodi ar gyfer pa ysgolion neu sefydliadau a gynhelir y mae pob cwricwlwm lleol yn gymwys.

Adran 25 Penderfynu “relevant school or institution” ar gyfer disgybl (adran 33D o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

71.Mae darpariaeth cwricwlwm lleol 16 i 18 oed yn gweithredu trwy gyfeirio at y cysyniad o “relevant school or institution” disgybl. Cam cyntaf y broses o benderfynu yw penderfynu ar “relevant school or institution” (dynodi'r ysgol neu'r sefydliad y mae gan y disgybl hawlogaeth i ddewis dilyn cwrs astudio o’i chwricwlwm lleol neu o’i gwricwlwm lleol) sydd yn y pen draw yn arwain at hawlogaeth i ddewis dilyn cwrs astudio.

72.Pennaeth yr ysgol a fynychir gan ddisgybl yn ystod Cyfnod Allweddol 4 sydd i benderfynu pa un yw ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl. Gall fod mai'r ysgol a fynychwyd gan y disgybl yn ystod Cyfnod Allweddol 4 fydd honno (os oes chweched dosbarth ar gael yno) neu gall fod yn sefydliad gwahanol, er enghraifft, Sefydliad Addysg Bellach. Bydd yr ysgol berthnasol neu’r sefydliad perthnasol a ddynodir yn dibynnu ar ba ysgol neu sefydliad mae’r pennaeth yn meddwl y mae'r disgybl yn debygol o'i mynychu neu ei fynychu cyn gynted ag y bydd dros oedran ysgol gorfodol. Cyn dod i gasgliad, bydd angen i’r pennaeth ymgynghori gyda’r disgybl o dan sylw yn ogystal ag unrhyw ysgol neu sefydliad y byddai’r disgybl yn hoffi ei mynychu neu ei fynychu. Cyn gynted â bod penderfyniad wedi’i wneud ynghylch ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl, yna, os bydd y disgybl yn mynychu yr ysgol neu’r sefydliad hwwnw, bydd yn dod yn gyfrifol, yn unol â darpariaethau canlynol y Mesur hwn, am gyflawni hawlogaethau'r disgybl hwnnw o ran cwricwlwm lleol ar gyfer disgyblion 16-18 oed.

73.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgol i bennu ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol i’r disgybl, os yw disgybl yn gwneud cais am benderfyniad o’r fath.

74.Mae is-adran (2) yn diffinio ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl fel un sydd, ym marn y pennaeth, yn debygol o fod yn gyfrifol am ddarparu'r rhan fwyaf o addysg y disgybl cyn gynted ag y bydd y disgybl dros oedran ysgol gorfodol.

75.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, i ddarparu ar gyfer gwneud ceisiadau a phenderfyniadau o dan yr adran hon. Er enghraifft, darparu ar gyfer y dyddiad neu’r amser erbyn pryd y dylid cyflwyno cais neu wneud penderfyniad.

76.Mae is-adran (4) yn darparu'n ddatganedig nad yw'r adran hon yn creu dyletswydd ar unrhyw berson i dderbyn disgybl i ysgol benodol neu sefydliad penodol.

Adran 26 Dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol (adran 33E o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

77.Bydd yr adran hon yn gweithredu mewn perthynas â phlant yng Nghyfnod Allweddol 4. Yn ystod y cyfnod hwnnw bydd angen iddynt wneud dewisiadau ynghylch y cyrsiau maent yn dymuno eu dilyn pan na fyddant bellach mewn oedran ysgol gorfodol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4.

78.Mae is-adran (1) yn gosod hawliau disgyblion i ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau o’r cwricwlwm lleol perthnasol ar gyfer y disgybl hwnnw. Fodd bynnag, gall rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3) gyfyngu ar yr hawliau hyn.

79.Mae is-adran (2) yn gosod y cyfnod o amser yn ystod pa bryd y mae hawlogaeth unrhyw fyfyriwr yn bodoli.  Mae unrhyw hawlogaeth yn dod i ben cyn gynted ag y bydd person yn cyrraedd 19 oed. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i berson o’r fath roi’r gorau i ddilyn cwrs astudio ar ôl cyrraedd 19 oed, dim ond nad oes ganddo hawlogaeth statudol y gellir ei gorfodi i barhau i ddilyn y cwrs.

80.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a allai, er enghraifft, bennu uchafswm nifer y cyrsiau y gall disgybl eu dewis o’r cwricwlwm lleol cyfan, cyfanswm pwyntiau’r cyrsiau y gellir eu dewis a’r cyfnod ar gyfer gwneud y dewisiadau hynny. Gall fod angen cyfyngu ar y cyfnod ar gyfer gwneud penderfyniadau fel bod yr asiantaethau perthnasol, ar ôl hynny, yn cael digon o amser i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer cyflenwi’r cyrsiau astudio a ddewiswyd (y gellir eu cyflenwi o bosibl gan ysgol neu sefydliad heblaw'r un a fynychir pan wneir y dewisiadau).

81.Mae is-adran (4) yn diffinio “relevant local curriculum” ar gyfer disgybl. Dyma'r cwricwlwm lleol a ddynodir o ran ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl o dan adran 33C o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, neu lle mae yna un cwricwlwm lleol ar gyfer yr AALl lle y mae ysgol neu sefydliad y disgybl wedi’i leoli, y cwricwlwm hwnnw..

Adran 27 Hawlogaethau myfyrwyr o ran y cwricwlwm lleol (adran 33F o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

82.Mae’r adran hon yn darparu bod dewis a wneir gan fyfyriwr o dan adran 33E o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (fel y’i mewnosodwyd gan yr adran uchod o’r Mesur hwn) yn hawlogaeth ‘mewn egwyddor’ i ddilyn y cwrs astudio a ddewiswyd yn ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl, neu o dan drefniadau a wnaed gan ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl. Bydd yn dod yn hawlogaeth go iawn oni bai bod achlysur y darperir ar ei gyfer yn yr adran hon yn digwydd.

83.Mae is-adran (1) yn pennu bod hawlogaeth myfyriwr yn dod i ben os nad yw ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl bellach yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’i addysg, er enghraifft, os yw’r myfyriwr yn peidio â bod yn fyfyriwr cofrestredig mewn ysgol cyn mynd i’w chweched dosbarth, neu os yw pennaeth ysgol berthnasol neu bennaeth sefydliad perthnasol myfyriwr yn penderfynu (cyn dechrau cyfnod yr hawlogaeth) nad oes gan y myfyriwr hawlogaeth i ddilyn y cwrs astudio a ddewiswyd.

84.Mae is-adran (2) yn pennu, pan fydd hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio yn codi, mai pennaeth ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y myfyriwr sydd i benderfynu pryd mae'r cwrs astudio hwnnw i ddechrau.

Adran 28 Penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth (adran 33G o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

85.Mae'n debyg y byddai'n amhosibl sefydlu system y byddai  holl ddewisiadau disgybl i ddilyn cyrsiau astudio yn cael eu trosi'n hawlogaethau. Er enghraifft, os mai llond dwrn yn unig o ddisgyblion o fewn ardal awdurdod addysg lleol sy'n dewis dilyn cwrs arbennig, efallai na fyddai darparu'r cwrs hwnnw'n gwneud defnydd effeithiol o adnoddau. Dyna pam y mae is-adran (1) yn galluogi penaethiaid ysgolion neu sefydliadau i benderfynu, ar seiliau penodedig, nad oes gan ddisgybl yr hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio penodol.

86.Mae is-adran (2) yn pennu ar ba sail y gall pennaeth ysgol neu sefydliad benderfynu nad oes gan ddisgybl yr hawl i ddilyn cwrs astudio.

87.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn  rheoliadau, i wneud darpariaeth sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau o dan is-adran (1).  Er enghraifft, gall rheoliadau ddarparu ar gyfer:

(a)

erbyn pa amser neu pa ddyddiad y mae penderfyniadau i'w gwneud;

(b)

y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth wneud penderfyniadau;

(c)

apelau i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad neu i berson arall;

(d)

yr amser neu'r dyddiad ar gyfer dyfarnu apelau;

(e)

y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn cysylltiad â dyfarnu apelau.

88.Mae is-adran (4) yn gosod dyletswydd ar bennaeth yr ysgol neu'r sefydliad a'r person y gosodwyd arno'r cyfrifoldeb i ddyfarnu apelau o dan y rheoliadau, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o ran arfer swyddogaethau'r person o dan yr adran hon. Gallai hyn ymdrin a materion megis cysylltu gyda phenaethiaid ysgolion neu sefydliadau eraill (gyda'r bwriad o gynnig cyrsiau astudio i ddisgyblion o ysgolion neu sefydliadau ei gilydd) cyn gwneud penderfyniad ynghylch hawlogaeth.

89.Mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i ddiwygio neu ddiddymu’r seiliau presennol, ychwanegu atynt, a diwygio neu ddiddymu unrhyw ychwanegiadau.

Adran 29 Cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol  (adran 33H o Ddeddf Dysgu a Medrau 2002)

90.Mae'r adran hon yn nodi'r ddyletswydd a osodir ar ysgolion a sefydliadau addysg bellach i gyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol i fyfyrwyr 16 i 18 oed.

91.Mae'r adran yn darparu bod yn rhaid trefnu bod y cwrs astudio ar gael i fyfyriwr gan, neu ar ran corff llywodraethu  ei ysgol berthnasol neu ei sefydliad perthnasol. Mae hyn yn golygu y gellir cynnig cyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol mewn lleoliadau dysgu gwahanol i ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl, er enghraifft gall myfyriwr sy’n mynychu ysgol â chweched dosbarth ynddi ddilyn cyrsiau astudio penodol a ddarperir mewn Sefydliad Addysg Bellach.

Adran 30 Penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth (adran 33I o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

92.Weithiau, bydd angen dileu hawlogaeth myfyriwr i ddilyn cwrs astudio, am resymau iechyd a diogelwch, er enghraifft.

93.Mae is-adran (1) yn galluogi pennaeth ysgol neu sefydliad i benderfynu, ar seiliau penodedig, i ddileu hawlogaeth myfyriwr.

94.Mae is-adran (2) yn pennu ar ba sail y gall pennaeth ysgol berthnasol neu bennaeth sefydliad perthnasol myfyriwr benderfynu dileu hawlogaeth myfyriwr. Y seiliau hynny yw iechyd a diogelwch a gwariant anghymesur.

95.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau pellach ynghylch gwneud penderfyniadau o dan is-adran (1) gan gynnwys y canlynol:

(a)

y weithdrefn benderfynu;

(b)

darpariaeth ar gyfer apelau i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad neu i berson arall a bennir yn y rheoliadau;

(c)

darpariaeth ynghylch effaith penderfyniad hyd nes y ceir dyfarniad ar apêl;

(d)

y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn cysylltiad â dyfarnu apêl.

96.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a phenaethiaid sefydliadau a phersonau y gosodwyd arnynt y cyfrifoldeb i ddyfarnu apelau o dan y rheoliadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer swyddogaethau o dan yr adran hon.

97.Mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i ddiwygio neu ddiddymu’r seiliau presennol, ychwanegu atynt, a diwygio neu ddiddymu unrhyw ychwanegiadau.

Adran 31 Cynllunio'r cwricwlwm lleol (adran 33J o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

98.Bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch pa gyrsiau astudio i’w cynnwys mewn cwricwlwm lleol o dan adran 33A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn dibynnu i raddau helaeth ar y cynhwysedd addysgol lleol. Ychydig iawn o werth fydd cynnwys cyrsiau nad yw ysgolion lleol a sefydliadau addysg bellach yn medru eu cyflenwi.

99.Yn unol â hynny, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol bod y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu addysg i ddisgyblion 16 i 18 oed yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru i gynllunio’r cwricwlwm neu gwricwla lleol ar gyfer ardal  benodol awdurdod addysg lleol.

100.Mae is-adran (1) yn pennu bod yn rhaid i'r personau canlynol gynorthwyo Gweinidogion Cymru yn hyn o beth:

(a)

yr awdurdod addysg lleol y llunnir y cwricwlwm lleol neu'r cwricwla lleol ar gyfer ei ardal;

(b)

corff llywodraethu a phennaeth unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw;

(c)

corff llywodraethu a phennaeth sefydliad yn y sector addysg bellach sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod hwnnw.

101.Mae is-adran (2) yn diffinio “planning the local curriculum or curricula” fel y broses lle y mae Gweinidogion Cymru’n penderfynu pa gyrsiau astudio i’w cynnwys mewn cwricwlwm lleol. Mae is-adran (3) yn darparu bod Gweinidogion Cymru’n dyroddi canllawiau a chyfarwyddiadau ar gyfer y cyrff a bennir yn is-adran (1) mewn cysylltiad â’u dyletswydd i gynorthwyo Gweinidogion Cymru o dan yr adran hon.

Adran 32 Cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio (adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

102.Fel y nodwyd yn is-adran (1),  amcan yr adran hon yw sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau astudio ar gael o fewn y cwricwla lleol a sefydlwyd o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

103.Mae is-adrannau (2) a (4), yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu ysgol uwchradd  a gynhelir a sefydliad addysg bellach i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau amcan yr adran hon.

104.Mae is-adran (3) yn darparu bod y ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau amcan yr adran yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, dyletswydd i geisio ymrwymo mewn trefniadau cydweithredu, lle y mae'r personau perthnasol wedi penderfynu y byddai'n hyrwyddo amcan yr adran i ymrwymo mewn trefniadau o'r fath.

105.Diffinnir “co-operation arrangement” yn is-adran (5) i olygu trefniant lle y mae unrhyw berson yn darparu cwrs astudio ar ran corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach, neu drefniadau a wneir o dan reoliadau o dan adrannau 26 o Ddeddf Addysg 2002 a 166 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, sy'n drefniadau cydweithio mwy ffurfiol a allai gynnwys, er enghraifft, sefydlu cyd-bwyllgor.

106.Mae is-adran (6) yn diffinio “relevant local curriculum” at ddibenion yr adran hon.

Adran 33 Cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau (adran 33L o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

107.Mae’r adran hon yn ymwneud â’r ymrwymiadau i gydweithio a osodir gan adran 33K.

108.Mae is-adran (1) yn darparu bod awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu ysgol uwchradd a gynhelir a chorff llywodraethu sefydliad addysg bellach yn rhoi ystyriaeth i ganllawiau  a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chyflawni eu dyletswyddau o dan adran 33K.

109.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff canllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1) ymwneud â chynnwys trefniadau cydweithredu.

110.Mae is-adran (3) yn darparu bod yn rhaid i'r personau a grybwyllir yn is-adran (1) gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru ynghylch ymrwymo mewn unrhyw drefniadau cydweithredu.

111.Mae is-adran (4) yn ei gwneud hi’n glir y gallai cyfarwyddiadau a roddir o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i bersonau ymrwymo mewn trefniadau cydweithredu penodol a chânt bennu'r telerau pan ddylid ymrwymo mewn trefniadau o'r fath. Yn achos cyfarwyddyd i ymrwymo mewn trefniant cydweithredu â pharti heblaw Awdurdod Addysg Lleol, corff llywodraethu ysgol neu gorff llywodraethu Sefydliad Addysg Bellach, rhaid peidio â rhoi cyfarwyddyd o'r fath heb gydsyniad y parti hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys cyrff eraill sy’n darparu cyrsiau astudio sy’n rhan o gwricwla lleol, er enghraifft, darparwyr hyfforddiant preifat neu gyrff yn y sector gwirfoddol.

Adran 34 Pŵer i ddiwygio meysydd dysgu (adran 33M o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

112.Mae'r ddarpariaeth hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 33A(3). Byddai hyn, er enghraifft, yn caniatáu creu meysydd dysgu newydd.

Adran 35 Y cwricwlwm lleol: dehongli (adran 33N o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

113 Mae’r adran hon yn darparu ystyr y termau amrywiol a ddefnyddir yn y darpariaethau a fewnosodir yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 gan y Mesur hwn.

Adran 36 Cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau (adran 33O o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

114.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn glir y gellir amrywio neu ddirymu drwy gyfarwyddyd pellach unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 33A, llunio cwricwla lleol, 33J, cynllunio’r cwricwlwm lleol a 33L, gweithio ar y cyd.

Adran 37 Cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i fyfyrwyr sy’n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu fyfyrwyr a chanddynt anawsterau dysgu (adran 33P o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

115.Nid yw'r Rhan hon o'r Mesur yn gymwys i ysgolion arbennig na sefydliadau addysg bellach sy'n darparu addysg yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer pobl ag anhawster dysgu. Er hynny, gwneir darpariaeth yn yr adran hon ar gyfer gwneud rheoliadau sy'n cymhwyso darpariaethau o ran cwricwlwm lleol i ddisgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol sy'n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu'n fyfyrwyr mewn sefydliadau sy'n darparu addysg yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer pobl gydag anhawster dysgu.

116.Mae is-adran (1) yn galluogi gwneud rheoliadau sy'n cymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i'r personau sydd dros oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi cofrestru mewn ysgol arbennig a gynhelir neu sy'n derbyn y rhan fwyaf o'u haddysg mewn sefydliad sy'n darparu addysg yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer pobl ag anhawster dysgu.

117.Mae is-adran (2) yn galluogi gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) i gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol gydag unrhyw addasiadau sydd eu hangen i gymryd i ystyriaeth, er enghraifft, yr amgylchiadau y mae'r sefydliadau hyn yn gweithredu ynddynt.

Adran 38 Cymhwyso darpariaethau’r cwricwlwm lleol i sefydliadau o fewn y sector addysg uwch (adran 33Q o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000)

118.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gymwys i ddarpariaethau perthnasol y Mesur i sefydliadau o fewn y Sector Addysg Uwch yng Nghymru yn yr un modd ag y maent yn gymwys i sefydliadau o fewn y Sector Addysg Bellach yng Nghymru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod sefydliadau Addysg Uwch sy’n darparu Addysg Bellach yng Nghymru yn gallu cael eu cynnwys yng nghwmpas y Mesur.

119.Mae is-adran (2) yn darparu y gall y rheoliadau a wnaed o dan yr adran hon gymhwyso’r un pwerau a’r dyletswyddau a roddwyd i benaduriaid a chyrff llywodraethu o fewn y sector Addysg Bellach i’r cyrff ac unigolion cyfatebol yn y sector Addysg Uwch. Mae is-adran (3) yn darparu y gall y darpariaethau a wnaed o dan yr adran hon gymhwyso darpariaethau’r Mesur i sefydliadau o fewn y sector Addysg Uwch gyda’r addasiadau y cred Gweinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu’n gyfleus.

Adran 39 Rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn

120.Mae’r adran hon yn diwygio adran 152 o Ddeddf Dysgu a Medru 2000 er mwyn darparu bod y Cynulliad yn rheoli’r rheoliadau a’r gorchmynion a wneir o dan y darpariaethau a fewnosodir gan y Mesur hwn yn Rhan 2 o’r Ddeddf honno. Y weithdrefn berthnasol yw’r weithdrefn penderfyniad negyddol ym mhob achos ac eithrio pan wneir gorchymyn o dan adrannau 33G(5), 33I(5) neu 33M sydd, oherwydd y byddai’n newid deddfwriaeth sylfaenol, yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.

RHAN 3 – GWASANAETHAU SY'N YMWNEUD AG ADDYSG, HYFFORDDIANT A SGILIAU

Adran 40 Gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach

121.Mae is-adran (1) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach i ddarparu neu sicrhau “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr”. Gellir eu cyfarwyddo hefyd i gymryd rhan pan ddarperir gwasanaethau cymorth i ddysgwyr gan rywun arall.

122.Mae is-adran (3) yn rhoi ystyr eang i’r term “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr”. Yn unol â hynny, gall fod angen darparu amrywiaeth eang o wasanaethau o dan yr adran hon.

123.Mae is-adran (4) yn gosod y materion ategol y caniateir eu cynnwys mewn cyfarwyddyd gwasanaethau cymorth i ddysgwyr o dan is-adran (1). Er enghraifft, gall fod yn ofynnol i’r corff a gyfarwyddir roi sylw i ganllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru ynghylch darparu gwasanaeth penodol o ran cymorth i ddysgwyr.

124.Mae is-adran (5) yn nodi y caiff cyfarwyddyd o'r fath ymwneud â dosbarth penodol o bersonau ifanc, caiff hefyd ddarparu ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o bersonau a cheir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

125.Mae is-adran (6) yn darparu ar gyfer amhleidioldeb pan fydd gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn rhoi cyngor a gwybodaeth.  Mae'n darparu bod yn rhaid rhoi gwybodaeth mewn modd amhleidiol a bod yn rhaid cynnig cyngor yr ystyrir ei fod yn hybu budd pennaf y person ifanc ac nad yw'n ceisio hybu buddiannau neu ddyheadau unrhyw ysgol neu sefydliad neu berson neu gorff arall yn erbyn buddiannau gorau'r person ifanc o dan sylw.

Adran 41 Dyletswyddau cyrff llywodraethu

126.Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 40.

Adran 42 Diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000

127.Mae'r adran hon yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000.

128.Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon i adran 126 o’r Ddeddf honno’n sicrhau bod y gofynion ynghylch trosglwyddo gwybodaeth, a materion perthynol, a osodir ar sefydliadau addysgol gan yr adran honno mewn perthynas â gwasanaethau cymorth i ieuenctid hefyd yn gymwys yn achos gwasanaethau cymorth i ddysgwyr. Er enghraifft, petai sefydliad addysg bellach yn darparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar gyfer disgybl cofrestredig, gallai fod yn ofynnol i ysgol y disgybl ddarparu (gyda chydsyniad y rhiant) yr wybodaeth berthnasol am y disgybl, megis ei gefndir addysgol.

129.Mae'r diwygiadau a wneir i adran 127 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn sicrhau bod gan Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) y pŵer i drefnu arolygiadau ar y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth i ddysgwyr.

Adran 43 Y ddogfen llwybr dysgu

130.Mae’r adran hon yn darparu bod pob “disgybl perthnasol” neu “fyfyriwr perthnasol” yn cael dogfen sy’n cofnodi ei lwybr dysgu. Mae llwybr dysgu disgybl neu fyfyriwr yn cynnwys y cyrsiau astudio cwricwlwm lleol y mae ganddo'r hawlogaeth i’w dilyn o dan y darpariaethau a fewnosodir gan Rannau 1 neu 2 o’r Mesur hwn ynghyd â’r gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir ar ei gyfer  o dan adran 37 o’r Mesur hwn. Adwaenir y cofnod fel “y ddogfen llwybr dysgu”. O dan yr adran hon, dyletswydd pennaeth ysgol neu bennaeth Sefydliad Addysg Bellach yw cynhyrchu a diweddaru dogfennau llwybr dysgu.

Adran 44 Llwybrau dysgu: dehongli

131.Mae'r adran hon yn diffinio termau a ddefnyddir yn adran 43.

Adran 45 Darparu gwybodaeth am y cwricwlwm

132.Mae'r adran hon yn mewnosod adran newydd 45B yn Neddf Addysg 1997. Mae’n caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau gyrfa i'w gwneud yn ofynnol i ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach roi gwybodaeth iddynt am y cwricwlwm.

RHAN 4 – AMRYWIOL AC ATODOL

Adran 46 Rheoliadau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm lleol

133.Ar hyn o bryd, tueddir drafftio deddfwriaeth addysgol ar y dybiaeth y bydd plentyn yn derbyn y rhan fwyaf o’i addysg ar un safle. O dan y cwricwla lleol a lunnir o dan Rannau 1 a 2 o’r Mesur hwn, yn aml nid felly y bydd hi. Er enghraifft, gallai plentyn dderbyn cyfran sylweddol o’i addysg mewn ysgol wahanol i’r un y mae wedi’i gofrestru ynddi.

134.Diben yr adran hon yw caniatáu i reoliadau gael eu gwneud fel y bydd y corff presennol o ddeddfwriaeth addysgol yn gymwys mewn ffordd briodol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn eu haddysg mewn mwy nag un sefydliad addysgol. Er enghraifft, gallai rheoliadau o dan yr adran hon bennu, at ddibenion deddfwriaeth sy'n rheoli cyfarfodydd gyda rhieni plentyn, bod plentyn i'w drin fel disgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol er mwyn i’r rhieni gael yr hawl i gyfarfod â’r rhai sy’n gyfrifol am addysg y plentyn yn y ddwy ysgol.

Adran 47 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

135.Mae'r adran hon yn cyflwyno'r Atodlen sy'n cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Adran 48 Gorchmynion a rheoliadau

136.Mae'r adran hon yn darparu bod unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchymyn o dan y Mesur yn arferadwy drwy offeryn statudol. Mae hefyd yn darparu y caniateir dileu unrhyw reoliadau a wneir o dan y Mesur drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 49 Cychwyn

137.Mae'r adran hon yn darparu bod y Mesur yn cael ei ddwyn i rym drwy orchymyn Gweinidogion Cymru. Mae'n caniatáu i'r Mesur gael ei ddwyn i rym ar adegau gwahanol ar gyfer dibenion gwahanol.

Adran 50 Enw byr

138.Mae'r adran hon yn enwi'r Mesur – Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

COFNOD Y TRAFODION YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Mae’r tabl canlynol yn pennu’r dyddiadau a’r cyfeiriadau ar gyfer pob cam o hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd7 Gorffennaf 2008
Cam 1 – Pwyllgor Craffu17 Gorffennaf 2008
Ystyried y Mesur arfaethedig
Cam 1 – Pwyllgor Craffu25 Medi 2008
Ystyried y Dystiolaeth
Cam 1 – Pwyllgor Craffu30 Medi 2008
Ystyried y Dystiolaeth
Cam 1 – Pwyllgor Craffu2 Hydref 2008
Ystyried y Dystiolaeth
Cam 1 – Pwyllgor Craffu9 Hydref 2008
Ystyried y Dystiolaeth
Cam 1 – Pwyllgor Craffu13 Hydref 2008
Ystyried y Dystiolaeth
Cam 1 – Pwyllgor Craffu14 Hydref 2008
Ystyried y Dystiolaeth
Cam 1 – Pwyllgor Craffu16 Hydref 2008
Ystyried y materion sy’n weddill
Cam 1 - Dadl9 Rhagfyr 2008
Cam 2 Pwyllgor Craffu –14 Ionawr 2009
Amlinelliad o’r gweithdrefnau
Cam 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau21 Ionawr 2009
Cam 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau28 Ionawr 2009
Cam 3  Dadl17 Mawrth 2009
Cam 4 Dadl i basio Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 200917 Mawrth 2009
Derbyn Cymeradwyaeth Brenhinol yn y Cyfrin Gyngor13 Mai 2009