133.Ar hyn o bryd, tueddir drafftio deddfwriaeth addysgol ar y dybiaeth y bydd plentyn yn derbyn y rhan fwyaf o’i addysg ar un safle. O dan y cwricwla lleol a lunnir o dan Rannau 1 a 2 o’r Mesur hwn, yn aml nid felly y bydd hi. Er enghraifft, gallai plentyn dderbyn cyfran sylweddol o’i addysg mewn ysgol wahanol i’r un y mae wedi’i gofrestru ynddi.
134.Diben yr adran hon yw caniatáu i reoliadau gael eu gwneud fel y bydd y corff presennol o ddeddfwriaeth addysgol yn gymwys mewn ffordd briodol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn eu haddysg mewn mwy nag un sefydliad addysgol. Er enghraifft, gallai rheoliadau o dan yr adran hon bennu, at ddibenion deddfwriaeth sy'n rheoli cyfarfodydd gyda rhieni plentyn, bod plentyn i'w drin fel disgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol er mwyn i’r rhieni gael yr hawl i gyfarfod â’r rhai sy’n gyfrifol am addysg y plentyn yn y ddwy ysgol.
135.Mae'r adran hon yn cyflwyno'r Atodlen sy'n cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
136.Mae'r adran hon yn darparu bod unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchymyn o dan y Mesur yn arferadwy drwy offeryn statudol. Mae hefyd yn darparu y caniateir dileu unrhyw reoliadau a wneir o dan y Mesur drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
137.Mae'r adran hon yn darparu bod y Mesur yn cael ei ddwyn i rym drwy orchymyn Gweinidogion Cymru. Mae'n caniatáu i'r Mesur gael ei ddwyn i rym ar adegau gwahanol ar gyfer dibenion gwahanol.
138.Mae'r adran hon yn enwi'r Mesur – Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.