121.Mae is-adran (1) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach i ddarparu neu sicrhau “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr”. Gellir eu cyfarwyddo hefyd i gymryd rhan pan ddarperir gwasanaethau cymorth i ddysgwyr gan rywun arall.
122.Mae is-adran (3) yn rhoi ystyr eang i’r term “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr”. Yn unol â hynny, gall fod angen darparu amrywiaeth eang o wasanaethau o dan yr adran hon.
123.Mae is-adran (4) yn gosod y materion ategol y caniateir eu cynnwys mewn cyfarwyddyd gwasanaethau cymorth i ddysgwyr o dan is-adran (1). Er enghraifft, gall fod yn ofynnol i’r corff a gyfarwyddir roi sylw i ganllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru ynghylch darparu gwasanaeth penodol o ran cymorth i ddysgwyr.
124.Mae is-adran (5) yn nodi y caiff cyfarwyddyd o'r fath ymwneud â dosbarth penodol o bersonau ifanc, caiff hefyd ddarparu ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o bersonau a cheir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
125.Mae is-adran (6) yn darparu ar gyfer amhleidioldeb pan fydd gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn rhoi cyngor a gwybodaeth. Mae'n darparu bod yn rhaid rhoi gwybodaeth mewn modd amhleidiol a bod yn rhaid cynnig cyngor yr ystyrir ei fod yn hybu budd pennaf y person ifanc ac nad yw'n ceisio hybu buddiannau neu ddyheadau unrhyw ysgol neu sefydliad neu berson neu gorff arall yn erbyn buddiannau gorau'r person ifanc o dan sylw.
126.Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 40.
127.Mae'r adran hon yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000.
128.Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon i adran 126 o’r Ddeddf honno’n sicrhau bod y gofynion ynghylch trosglwyddo gwybodaeth, a materion perthynol, a osodir ar sefydliadau addysgol gan yr adran honno mewn perthynas â gwasanaethau cymorth i ieuenctid hefyd yn gymwys yn achos gwasanaethau cymorth i ddysgwyr. Er enghraifft, petai sefydliad addysg bellach yn darparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar gyfer disgybl cofrestredig, gallai fod yn ofynnol i ysgol y disgybl ddarparu (gyda chydsyniad y rhiant) yr wybodaeth berthnasol am y disgybl, megis ei gefndir addysgol.
129.Mae'r diwygiadau a wneir i adran 127 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn sicrhau bod gan Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) y pŵer i drefnu arolygiadau ar y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth i ddysgwyr.
130.Mae’r adran hon yn darparu bod pob “disgybl perthnasol” neu “fyfyriwr perthnasol” yn cael dogfen sy’n cofnodi ei lwybr dysgu. Mae llwybr dysgu disgybl neu fyfyriwr yn cynnwys y cyrsiau astudio cwricwlwm lleol y mae ganddo'r hawlogaeth i’w dilyn o dan y darpariaethau a fewnosodir gan Rannau 1 neu 2 o’r Mesur hwn ynghyd â’r gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir ar ei gyfer o dan adran 37 o’r Mesur hwn. Adwaenir y cofnod fel “y ddogfen llwybr dysgu”. O dan yr adran hon, dyletswydd pennaeth ysgol neu bennaeth Sefydliad Addysg Bellach yw cynhyrchu a diweddaru dogfennau llwybr dysgu.
131.Mae'r adran hon yn diffinio termau a ddefnyddir yn adran 43.
132.Mae'r adran hon yn mewnosod adran newydd 45B yn Neddf Addysg 1997. Mae’n caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau gyrfa i'w gwneud yn ofynnol i ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach roi gwybodaeth iddynt am y cwricwlwm.