Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

2009 mccc 1

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglŷn â hawlogaeth plant sydd yn nwy flynedd olaf addysg orfodol a phersonau ifanc nad ydynt wedi cyrraedd pedwar ar bymtheg oed i gael addysg; i wneud darpariaeth ynghylch y gwasanaethau perthynol i addysg a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach; i wneud darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth am y cwricwlwm; ac at ddibenion cysylltiedig.