Trefniadau teithio i ddysgwyr

8Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno

(1)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol i'r mannau lle y maent yn cael addysg feithrin ac oddi yno.

(2)

Caiff y rheoliadau'n benodol—

(a)

ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(b)

caniata[acute]u i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(c)

pennu'r mathau o fan y caniateir gwneud, neu y mae'n rhaid gwneud, trefniadau teithio yno ac oddi yno;

(d)

pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(e)

pennu'r materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(f)

gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(g)

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan y rheoliadau.