Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

8Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi ynoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol i'r mannau lle y maent yn cael addysg feithrin ac oddi yno.

(2)Caiff y rheoliadau'n benodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(b)caniata[acute]u i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(c)pennu'r mathau o fan y caniateir gwneud, neu y mae'n rhaid gwneud, trefniadau teithio yno ac oddi yno;

(d)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(e)pennu'r materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(f)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(g)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 8 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2