Trefniadau teithio i ddysgwyrLL+C

7Trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru a'r rheini —

(a)yn ddysgwyr—

(i)sydd dros oedran ysgol gorfodol ond heb fod eto'n 19 oed, neu

(ii)sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant penodol cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw; a

(b)yn ddysgwyr sy'n cael addysg neu hyfforddiant—

(i)mewn man yng Nghymru, neu

(ii)a gyllidir gan Weinidogion Cymru mewn man y tu allan i Gymru.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i ddysgwyr i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno.

(3)Caiff y rheoliadau yn benodol—

(a)rhoi pwerau i'r canlynol neu osod dyletswyddau arnynt—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)awdurdodau lleol;

(iii)sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(b)pennu'r mathau o fan y caniateir, neu y mae'n rhaid, gwneud trefniadau teithio i fynd yno ac oddi yno;

(c)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(d)pennu'r materion y mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(f)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r person arall o dan y rheoliadau;

(g)gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant neu o'r mannau hynny.