Trefniadau teithio i ddysgwyr
5Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr
Nid yw adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu anghenion teithio dysgwyr ac nid yw adrannau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau teithio—
(a)
er mwyn i ddysgwyr deithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng gwahanol safleoedd yr un sefydliad, neu
(b)
at unrhyw ddiben ac eithrio mynychu man perthnasol i gael addysg neu hyfforddiant.