Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

5Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyrLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Nid yw adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu anghenion teithio dysgwyr ac nid yw adrannau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau teithio—

(a)er mwyn i ddysgwyr deithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng gwahanol safleoedd yr un sefydliad, neu

(b)at unrhyw ddiben ac eithrio mynychu man perthnasol i gael addysg neu hyfforddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 5 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I3A. 5 mewn grym ar 1.9.2009 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2