Trefniadau teithio i ddysgwyr
3Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—
(a)
os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol,
(b)
os yw'r amgylchiadau a nodir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl canlynol yn gymwys i'r plentyn, ac
(c)
os bodlonir yr amod, neu'r holl amodau, a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl mewn perthynas â'r plentyn.
(2)
Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau cludo addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.
Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
Amgylchiadau | Amod(au) |
Mae'r plentyn yn cael addysg gynradd mewn—
lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. |
|
Mae'r plentyn yn cael addysg uwchradd mewn—
lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. |
|
Mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser. |
|
Mae'r plentyn—
Addysg sydd wedi ei threfnu gan y canlynol yw'r addysg uwchradd y cyfeirir ati ym mharagraff (b)—
| Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r man perthnasol. |
Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg gynradd mewn—
lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. | Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned. |
Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg uwchradd mewn—
lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig. | Mae'r plentyn fel arfer yn preswylio mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned. |
(3)
Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon.
(4)
Caiff trefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon gynnwys—
(a)
darparu cludiant;
(b)
talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau cludo plentyn.
(5)
At ddibenion is-adran (2), nid yw trefniadau cludo'n addas—
(a)
os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,
(b)
os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu
(c)
os nad ydynt yn ddiogel.
(6)
At ddibenion pob paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, mae'r ysgol, yr uned neu'r sefydliad yn addas i'r plentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.
(7)
Mae'r pellteroedd a grybwyllir yng ngholofn 2 y tabl yn yr adran hon i'w mesur ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael.
(8)
Mae ffordd “ar gael” at ddibenion is-adran (7)—
(a)
os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu
(b)
os yw'n ddiogel i'r cyfryw blentyn gerdded y ffordd gyda hebryngwr, pe byddai oed y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr.
(9)
Caiff rheoliadau bennu amgylchiadau ac amodau at ddibenion paragraffau (b) ac (c) o is-adran (1); caiff y cyfryw reoliadau ddiwygio'r tabl neu ddiwygio is-adrannau (6), (7) ac (8) (gan gynnwys diddymu cofnod yn y tabl neu yn yr is-adrannau hynny).