Cyffredinol
27Gorchmynion a rheoliadau
(1)
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu F1ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu ardaloedd gwahanol;
F2(aa)
i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;
(b)
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion F3neu ddosbarthau ar achos penodol;
(c)
i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
(3)
(4)
Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—
(a)
y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;
(b)
Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;
(c)
is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.
F6(4A)
Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.
(5)
Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)
Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.
(7)
Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—
(a)
rheoliadau o dan adran 3(9),
(b)
rheoliadau o dan adran 7,
(c)
rheoliadau o dan adran 8,
(d)
rheoliadau o dan adran 14(14)(a), F7...
F8(da)
rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu
F8(db)
gorchymyn o dan adran 14N(6).
(e)
rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,
onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.