27Gorchmynion a rheoliadauLL+C
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu [F1ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu] ardaloedd gwahanol;
[F2(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;]
(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion [F3neu ddosbarthau ar achos] penodol;
(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), F4... [F57, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1] hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.
(4)Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—
(a)y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;
(b)Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;
(c)is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.
[F6(4A)Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.]
(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.
(7)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—
(a)rheoliadau o dan adran 3(9),
(b)rheoliadau o dan adran 7,
(c)rheoliadau o dan adran 8,
(d)rheoliadau o dan adran 14(14)(a), F7...
[F8(da)rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu]
[F8(db)gorchymyn o dan adran 14N(6).]
(e)rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,
onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 27(2)(a) wedi eu mewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(2)(a), 16(2)
F2A. 27(2)(aa) wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(2)(b), 16(2)
F3Geiriau yn a. 27(2)(b) wedi eu mewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(2)(c), 16(2)
F4Geiriau yn a. 27(3) wedi eu hepgor (10.7.2011) yn rhinwedd Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(3), 16(2)
F5Geiriau yn a. 27(3) wedi eu mewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(3), 16(2)
F6A. 27(4A) wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(4), 16(2)
F7Gair yn a. 27(7)(d) wedi ei hepgor (10.7.2011) yn rhinwedd Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(5)(a), 16(2)
F8A. 27(7)(da)(db) wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(5)(b), 16(2)
Gwybodaeth Cychwyn