Atodol
19Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau arbennig
(1)
Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae'r person hwnnw i'w drin at ddibenion y Mesur hwn fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y man lle y mae'n preswylio am y tro.
(2)
Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd naill ai—
(a)
yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, neu
(b)
wedi ymrestru yn fyfyriwr llawnamser mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.
(3)
Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—
(a)
nad yw ei rieni'n cyd-fyw, a
(b)
sy'n byw fel arfer gyda mwy nag un rhiant yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.
(4)
Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sy'n byw fel arfer gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.
(5)
At ddibenion y Mesur hwn—
(a)
mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (3) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y mannau lle y mae y naill o'i rieni a'r llall yn preswylio fel arfer;
(b)
mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (4) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y cartref plant ac yn y man lle y mae ei riant yn preswylio fel arfer.
(6)
Ond os oes mwy na dau o'r cyfryw fannau, mae'r plentyn neu'r person ifanc yn preswylio fel arfer yn y ddau fan sydd agosaf—
(a)
at yr ysgol lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu
(b)
at y sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc wedi ymrestru'n fyfyriwr llawnamser.
(7)
Yn yr adran hon—
F1(a)
ystyr “cartref plant” yw mangre lle y mae—
(i)
gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant neu bobl ifanc; neu
(ii)
gwasanaeth llety diogel yn cael ei ddarparu;
ac yn y paragraff hwn mae i “gwasanaeth cartref gofal” a “gwasanaeth llety diogel” yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2);
(b)
ystyr “rhiant” yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n unigolyn.