Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

19Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau arbennigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae'r person hwnnw i'w drin at ddibenion y Mesur hwn fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y man lle y mae'n preswylio am y tro.

(2)Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd naill ai—

(a)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, neu

(b)wedi ymrestru yn fyfyriwr llawnamser mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)nad yw ei rieni'n cyd-fyw, a

(b)sy'n byw fel arfer gyda mwy nag un rhiant yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(4)Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sy'n byw fel arfer gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(5)At ddibenion y Mesur hwn—

(a)mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (3) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y mannau lle y mae y naill o'i rieni a'r llall yn preswylio fel arfer;

(b)mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (4) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y cartref plant ac yn y man lle y mae ei riant yn preswylio fel arfer.

(6)Ond os oes mwy na dau o'r cyfryw fannau, mae'r plentyn neu'r person ifanc yn preswylio fel arfer yn y ddau fan sydd agosaf—

(a)at yr ysgol lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu

(b)at y sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc wedi ymrestru'n fyfyriwr llawnamser.

(7)Yn yr adran hon—

[F1(a)ystyr “cartref plant” yw mangre lle y mae—

(i)gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant neu bobl ifanc; neu

(ii)gwasanaeth llety diogel yn cael ei ddarparu;

ac yn y paragraff hwn mae i “gwasanaeth cartref gofal” a “gwasanaeth llety diogel” yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2);]

(b)ystyr “rhiant” yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n unigolyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 19 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1