Atodol
18Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn gwneud trefniadau teithio o dan adran 3 neu adran 4 ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ardal wahanol (“awdurdod B”).
(2)
Caiff awdurdod A alw ar i awdurdod B ad-dalu'r cyfan neu ran o'r gost o wneud trefniadau teithio.
(3)
Rhaid i awdurdod B gydymffurfio â'r galw am ad-dalu.