xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn gwneud trefniadau teithio o dan adran 3 neu adran 4 ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ardal wahanol (“awdurdod B”).
(2)Caiff awdurdod A alw ar i awdurdod B ad-dalu'r cyfan neu ran o'r gost o wneud trefniadau teithio.
(3)Rhaid i awdurdod B gydymffurfio â'r galw am ad-dalu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)
I2A. 18 mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2