Atodol
16Gwybodaeth am drefniadau teithio
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi, ar y cyfryw adegau ac yn y cyfryw fodd ag a ragnodir, wybodaeth—
(a)
a ddaw i law wrth wneud asesiadau o dan adran 2(2);
(b)
am asesiadau a wneir o dan yr adran honno;
(c)
am y trefniadau teithio a wneir o dan y Mesur hwn;
(d)
am y cod ymddygiad wrth deithio a wneir o dan adran 12.