15Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C
(1)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r cyrff canlynol roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—
(a)awdurdodau lleol;
(b)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;
(c)cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach.
(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau teithio i ddysgwyr o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i'w gwneud.
(3)Wrth wneud trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(4)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon gael eu rhoi i un awdurdod lleol neu fwy neu i awdurdodau lleol yn gyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)
I2A. 15 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1
