Atodol

15Canllawiau a chyfarwyddiadau

(1)

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r cyrff canlynol roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—

(a)

awdurdodau lleol;

(b)

cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

(c)

cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau teithio i ddysgwyr o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i'w gwneud.

(3)

Wrth wneud trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4)

Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon gael eu rhoi i un awdurdod lleol neu fwy neu i awdurdodau lleol yn gyffredinol.