Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr
F114KY pŵer i fynnu gwybodaeth
(1)
Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—
(a)
sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a
(b)
sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu'n hwylus i'w cael at ddibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.
(2)
Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
(a)
corff perthnasol;
(b)
unrhyw berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
(3)
Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
(4)
Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.
(5)
Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.