Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

F114FGoruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr

(1)

Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy'n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—

(a)

rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;

(b)

darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy'n goruchwylio dysgwyr.