Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

F114DAsesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr

(1)

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o'r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)

gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i'w gynnal;

(b)

ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;

(c)

rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;

(d)

rhagnodi pa mor aml y mae'n rhaid cynnal yr asesiadau.