Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

F114CRecordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

(1)

Caiff rheoliadau—

(a)

ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy'n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;

(b)

darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;

(c)

darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o'r canlynol—

(a)

corff perthnasol;

(b)

person sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

(3)

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na'i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy'n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.