Cod ymddygiad wrth deithio
14Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys i ddysgwyr y gwneir trefniadau teithio ar eu cyfer o dan adran 3 neu 4.
(2)
Caiff yr awdurdod lleol dynnu'n ôl drefniadau teithio a wnaed ar gyfer dysgwr—
(a)
os yw'r awdurdod yn fodlon bod y dysgwr wedi methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad wrth deithio a wnaed o dan adran 12, a
(b)
os bodlonir yr amodau canlynol sy'n gymwys i'r dysgwr.
(3)
Mae'r chwe amod canlynol i gyd yn gymwys i unrhyw ddysgwr sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.
(4)
Mae'r cyntaf, y trydydd a'r pedwerydd o'r amodau canlynol yn gymwys i unrhyw ddysgwr nad yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.
(5)
Yr amod cyntaf yw, cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i dynnu'n ôl drefniadau teithio—
(a)
bod cyfle'n cael ei roi i'r dysgwr ac i riant y dysgwr i wneud sylwadau, a
(b)
bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau hynny.
(6)
Yr ail amod yw—
(a)
yr ymgynghorir â phennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig ynghylch y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio; a
(b)
yr hysbysir pennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig o'r penderfyniad o leiaf 24 awr cyn bydd tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol.
(7)
Y trydydd amod yw bod y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(8)
Y pedwerydd amod yw bod yr awdurdod lleol yn hysbysu rhiant y dysgwr, o leiaf 24 awr cyn i dynnu'n ôl y trefniadau ddod yn effeithiol, bod y trefniadau teithio'n cael eu tynnu'n ôl.
(9)
Y pumed amod yw nad yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn fwy na 10 niwrnod ysgol dilynol.
(10)
Y chweched amod yw na fyddai'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn arwain at dynnu'n ôl drefniadau teithio oddi wrth y dysgwr am fwy na 30 o ddiwrnodau ysgol yn y flwyddyn ysgol y mae tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol ynddi.
(11)
Wrth benderfynu a yw penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol at ddibenion is-adran (7), rhaid ystyried yn benodol y materion canlynol—
(a)
a yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn gymesur ag amgylchiadau'r achos,
(b)
unrhyw amgylchiadau arbennig sy'n berthnasol i dynnu'n ôl drefniadau teithio ac sy'n hysbys i'r awdurdod lleol (neu y dylai'r awdurdod lleol fod yn ymwybodol ohonynt) gan gynnwys yn arbennig—
(i)
oed y dysgwr,
(ii)
unrhyw F1anhawster dysgu a all fod gan y dysgwr,
(iii)
unrhyw anabledd a all fod gan y dysgwr,
(iv)
a fyddai'r dysgwr yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, a
(v)
a all rhiant y dysgwr yn rhesymol wneud trefniadau teithio amgen sy'n rhai addas.
(12)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (6) neu is-adran (8) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n benodol—
(a)
y cyfnod pan yw trefniadau teithio wedi eu tynnu'n ôl, a
(b)
rhesymau'r awdurdod dros dynnu'n ôl y trefniadau teithio.
(13)
At ddibenion yr adran hon ac adran 17, ystyr “ysgol berthnasol” yw—
(a)
ysgol a gynhelir,
(b)
uned cyfeirio disgyblion, neu
(c)
ysgol arbennig nas cynhelir.
(14)
Caiff rheoliadau—
(a)
diwygio neu ddiddymu y naill neu'r llall o is-adrannau (9) a (10), neu'r ddwy;
(b)
gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2);
(c)
gwneud darpariaeth ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2).
(15)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (14)(c) yn benodol—
(a)
pennu'r categorïau o berson a gaiff apelio;
(b)
pennu'r amgylchiadau pan ganiateir apelio;
(c)
darparu ar gyfer cyfansoddiad panelau apelio;
(d)
darparu ar gyfer gweithdrefnau apelio;
(e)
gwneud darpariaeth ynghylch effaith penderfyniadau apêl;
(f)
darparu ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apelio;
(g)
ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag apelau.