Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

14Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i ddysgwyr y gwneir trefniadau teithio ar eu cyfer o dan adran 3 neu 4.

(2)Caiff yr awdurdod lleol dynnu'n ôl drefniadau teithio a wnaed ar gyfer dysgwr—

(a)os yw'r awdurdod yn fodlon bod y dysgwr wedi methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad wrth deithio a wnaed o dan adran 12, a

(b)os bodlonir yr amodau canlynol sy'n gymwys i'r dysgwr.

(3)Mae'r chwe amod canlynol i gyd yn gymwys i unrhyw ddysgwr sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(4)Mae'r cyntaf, y trydydd a'r pedwerydd o'r amodau canlynol yn gymwys i unrhyw ddysgwr nad yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(5)Yr amod cyntaf yw, cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i dynnu'n ôl drefniadau teithio—

(a)bod cyfle'n cael ei roi i'r dysgwr ac i riant y dysgwr i wneud sylwadau, a

(b)bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau hynny.

(6)Yr ail amod yw—

(a)yr ymgynghorir â phennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig ynghylch y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio; a

(b)yr hysbysir pennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig o'r penderfyniad o leiaf 24 awr cyn bydd tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol.

(7)Y trydydd amod yw bod y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(8)Y pedwerydd amod yw bod yr awdurdod lleol yn hysbysu rhiant y dysgwr, o leiaf 24 awr cyn i dynnu'n ôl y trefniadau ddod yn effeithiol, bod y trefniadau teithio'n cael eu tynnu'n ôl.

(9)Y pumed amod yw nad yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn fwy na 10 niwrnod ysgol dilynol.

(10)Y chweched amod yw na fyddai'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn arwain at dynnu'n ôl drefniadau teithio oddi wrth y dysgwr am fwy na 30 o ddiwrnodau ysgol yn y flwyddyn ysgol y mae tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol ynddi.

(11)Wrth benderfynu a yw penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol at ddibenion is-adran (7), rhaid ystyried yn benodol y materion canlynol—

(a)a yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn gymesur ag amgylchiadau'r achos,

(b)unrhyw amgylchiadau arbennig sy'n berthnasol i dynnu'n ôl drefniadau teithio ac sy'n hysbys i'r awdurdod lleol (neu y dylai'r awdurdod lleol fod yn ymwybodol ohonynt) gan gynnwys yn arbennig—

(i)oed y dysgwr,

(ii)unrhyw [F1anhawster dysgu] a all fod gan y dysgwr,

(iii)unrhyw anabledd a all fod gan y dysgwr,

(iv)a fyddai'r dysgwr yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, a

(v)a all rhiant y dysgwr yn rhesymol wneud trefniadau teithio amgen sy'n rhai addas.

(12)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (6) neu is-adran (8) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n benodol—

(a)y cyfnod pan yw trefniadau teithio wedi eu tynnu'n ôl, a

(b)rhesymau'r awdurdod dros dynnu'n ôl y trefniadau teithio.

(13)At ddibenion yr adran hon ac adran 17, ystyr “ysgol berthnasol” yw—

(a)ysgol a gynhelir,

(b)uned cyfeirio disgyblion, neu

(c)ysgol arbennig nas cynhelir.

(14)Caiff rheoliadau—

(a)diwygio neu ddiddymu y naill neu'r llall o is-adrannau (9) a (10), neu'r ddwy;

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2);

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2).

(15)Caiff rheoliadau o dan is-adran (14)(c) yn benodol—

(a)pennu'r categorïau o berson a gaiff apelio;

(b)pennu'r amgylchiadau pan ganiateir apelio;

(c)darparu ar gyfer cyfansoddiad panelau apelio;

(d)darparu ar gyfer gweithdrefnau apelio;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch effaith penderfyniadau apêl;

(f)darparu ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apelio;

(g)ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag apelau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 14 mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2)(b)

I3A. 14 mewn grym ar 4.1.2010 gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(2)(b)